Skip to content

Strwythurau

By admin

Ymchwilio heriau sy’n gorfodi dysgwyr i roi cynnig ar ddulliau newydd yn ymwneud â datrys problemau a gwneud addasiadau fel tîm. Mae’r gweithdy cystadleuol yn gofyn i grwpiau o ddysgwyr pwy allai adeiladu’r tŵr uchaf? Pa grŵp allai adeiladu’r bargod mwyaf o ymyl y bwrdd. Yna bydd gofyn iddyn nhw sicrhau bod marblen yn cymryd … Continued

Rocedi

By admin

Gwella a phrofi dealltwriaeth eich disgyblion o ynni ac ynni posibl drwy herio’u gwybodaeth o bynciau gwyddoniaeth. Trafod sut mae cysyniadau allweddol megis ynni a grymoedd yn gweithredu ar roced. Mewn grwpiau, bydd y disgyblion yn dylunio ac yn adeiladu roced gan ddefnyddio’u gwybodaeth wyddonol. Yna, bydd y grwpiau yn mynd ati y tu allan … Continued

Gwyddoniaeth Rocedi CA3

By admin

Mae’r sesiwn yn canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnom i lansio roced. Bydd trafodaeth grŵp yn y gweithdy ynghylch beth ydy Porth Gofod a beth ddylid ei ystyried pan fyddwch yn adeiladu Porth Gofod. Unwaith y byddwn ni wedi penderfynu beth sydd ei angen ar gyfer porth gofod, byddwn yn mynd ati i … Continued

Cenhadaeth EV3

By admin

Cwblhau heriau sy’n helpu i egluro a chreu rhannau o god er mwyn dysgu hanfodion sgiliau rhaglennu. Yn dilyn dysgu’r hanfodion sydd ynghlwm â defnyddio EV3, bydd y disgyblion yn rhoi’r sgiliau rhifedd a rhaglennu ar waith i brofi a llywio tirwedd greigiog. Bydd y dysgwyr yn cystadlu gan yrru eu EV3 trwy ddrysfa o … Continued

Gêm Masnach Ryngwladol

By admin

Dysgu agweddau allweddol cysyniadau economaidd a datblygu sgiliau sy’n ategu gwneud penderfyniadau, hyblygrwydd, gwaith tîm a mwy. Bydd pob un o’r 6 grŵp yn derbyn gwlad a phecyn o wahanol adnoddau yn seiliedig ar y wlad honno. Yna bydd y dysgwyr yn ceisio mynd ati i greu a chyfnewid siapiau papur i ennill y cyfanswm … Continued

Grymoedd CA3

By admin

Gwella dealltwriaeth y disgybl o ddisgyrchiant, ffrithiant, grym a sut maen nhw’n gweithio. Yn y sioe ryngweithiol hon, bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn nifer o arbrofion syfrdanol sy’n ymwneud â grymoedd. Beth fydd yn digwydd pan fyddwn yn gollwng dwy botel sydd yr union yr un fath? Byddai llenwi un gyda dŵr yn newid … Continued

Crumblebots

By admin

Cyfle creadigol wrth i ddisgyblion greu rhaglen ar Crumble i symud Crumblebot drwy wahanol heriau. Bydd y sesiwn yn cychwyn gyda thrafodaeth ar raglennu syml rhesymeg Boolean. Yna bydd y dysgwyr yn creu rhaglen sylfaenol er mwyn i’r Crumblebot symud mewn sgwâr. Gan ddefnyddio’r sgiliau hyn, bydd y dysgwyr yn bwrw iddi i geisio llunio … Continued

Celloedd

By admin

Deall pwysigrwydd a swyddogaethau celloedd a DNA mewn celloedd planhigion ac anifeiliaid. Gan weithio mewn grwpiau, bydd y disgyblion yn trafod ac yn nodi gwahanol fathau o gelloedd gan adrodd yn ôl i’r dosbarth. Bydd cyfle i’r disgyblion ledaenu clefyd ond pwy ydy’r cludwr? Yna mewn grwpiau unwaith eto, fe fydd gennym ni sawl her … Continued

Atomau i Astroffiseg

By admin

Bydd disgyblion yn rhoi cynnig ar weithgareddau ymarferol gan ddefnyddio cyfarpar diddorol na fyddai’n cael ei ddefnyddio mewn ysgolion fel arfer. Caiff y dosbarth ei rannu’n 3 grŵp lle bydd pob grŵp yn treulio amser ger pob gorsaf er mwyn bwrw golwg ar wahanol ffenomenau ffiseg. Bydd gan bob gorsaf weithgareddau ymarferol gan ddefnyddio cyfarpar … Continued

Dyfrbontydd

By admin

Adeiladu a phrofi systemau camlesi a ddefnyddir i gludo dŵr. Datblygu sgiliau gweithio mewn tîm, cyfathrebu a datrys problemau i greu gwerth. Bydd y dysgwyr yn trafod hanes a phwysigrwydd camlesi ar gyfer cludo ac ystyried sut mae modd creu pont / dyfrbont cadarn. Gan ddefnyddio’r wybodaeth hon, yn eu grwpiau, bydd y disgyblion yn … Continued

Skip to content