Skip to content

Mae gwyddoniaeth i bawb

Gan sicrhau bod ein cynnig yn addas i bawb, rydym yn ymroi i ofalu bod ein canolfan mor hollgynhwysol â phosibl. Isod fe allwch chi ddod o hyd i’r holl fanylion sydd ei angen arnoch i sicrhau eich bod yn barod pan fyddwch chi’n cyrraedd Xplore!

Yma yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth, rydym yn meddu ar y nodweddion hygyrchedd canlynol:

 

    • Mae gan Xplore! fynediad gwastad drwy’r ddau brif ddrws mynediad.
    • Mae dolen glyw ger ein mynedfa ac ein hardaloedd derbynfa.
    • Mae ein caffi ac ein Siop Wyddoniaeth ar agor i’r cyhoedd yn ogystal ag Ymwelwyr i Xplore!
    • Mae arddangosion o bob math ac ar wahanol uchderau yn yr ardal arddangos. Cofiwch ofyn i aelod o staff os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi.
    • Mae gennym ni ardal golau isel, theatr a dwy ystafell weithdy.
    • Mae gennym ni ardal i gadw cadeiriau olwyn a bygis, loceri i ymwelwyr ac ardal picnic ar gyfer ein hymwelwyr.
    • Mae gennym ni dai bach i ddynion a merched yn ogystal â dau dŷ bach niwtral o ran rhywedd a thai bach hygyrch ynghyd â chyfleusterau newid babanod.
    • Mae croeso i gŵn cymorth yma.
    • Mae Xplore! yn cydnabod y cynllun laniard blodau’r haul ac mae nifer o’n staff wedi derbyn hyfforddiant ffrindiau dementia gan y Gymdeithas Alzheimer’s a hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth.
    • Cyfleuster mannau newid cwbl hygyrch ar gyfer oedolion a phlant.

Bwrw golwg ar ein taith tywys rithiol! Fe welwn ni chi’n fuan!

Skip to content