Skip to content

Beth ydy Xplore!

Mae Xplore! (Techniquest Glyndŵr gynt) yn ganolfan darganfod gwyddoniaeth gyda dros 85 o arddangosion ymarferol a rhyngweithiol sydd â’r nod o herio dealltwriaeth ymwelwyr o wyddoniaeth mewn ffordd hwyl ac addysgol. Mae ein canolfan ymwelwyr yng nghanol dinas Wrecsam ac mae’n ofod gwych ar gyfer y teulu oll.

Cwestiynau Cyffredin Ymwelwyr

Mae gan Xplore! system cadw lle ymlaen llaw sy’n sicrhau ei bod hi’n llawer haws ichi drefnu eich ymweliad cyn y dyddiad mewn golwg. Rydym yn gwerthu tocynnau yn y dderbynfa ond byddem yn argymell ichi drefnu ymweliad ymlaen llaw rhag ichi gael eich siomi.

Archebu Rŵan

 

Ar gyfer y rheiny sydd â thocyn blwyddyn eisoes, trefnwch eich ymweliad ar-lein a defnyddiwch eich rhif cyfeirnod pan fyddwch yn talu. Cofiwch ddod â’ch tocyn gyda chi ar y diwrnod.

Archebu Rŵan

Rydym yn gwerthu tocynnau yn y dderbynfa ond byddem yn argymell ichi drefnu ymweliad ymlaen llaw rhag ichi gael eich siomi.

Archebu Rŵan

Ydyn! Gallai ymwelwyr gydag anableddau (sy’n talu’r ffi oedolyn / plentyn llawn) ddod ag un gofalwr* gyda nhw yn rhad ac am ddim. Os oes angen mwy nac un gofalwr arnoch chi, cofiwch roi gwybod inni os gwelwch yn dda. Cofiwch ddod â thystiolaeth berthnasol o’ch hawl. Er enghraifft, cerdyn Adnabod gan asiantaeth, llythyr neu lyfr Lwfans Byw i’r Anabl / Taliad Annibyniaeth Personol (wedi’i gyflwyno gan swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau) neu Fathodyn Glas. *Sylwch, er mwyn ichi fod yn gymwys fel gofalwr yng nghwmni ymwelydd i Xplore! mae’n rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn 

Archebu Rŵan

Oes, mae Xplore! yn codi ffi mynediad i ddefnyddio’r arddangosion. Mae’r ffi mynediad yn ddilys ar gyfer y sesiwn lawn ac mae croeso ichi fynd a dod fel y mynnwch. Mae’r ffi mynediad yn cynnwys ein sioe wyddoniaeth sy’n newid drwy gydol y flwyddyn felly ni fydd unrhyw ddau ymweliad i Xplore! yr un fath. Rydym yn argymell ein tocyn blwyddyn i’r rheiny sy’n chwilio am y gwerth gorau am arian. 

 

Mae Xplore! yn elusen sy’n cynhyrchu eu hincwm o ffioedd mynediad, taliadau am deithiau ysgol, grantiau a nawdd er mwyn bodloni ein nodau ac amcanion elusennol. Bydd eich ffi mynediad yn fodd inni estyn ein gwasanaeth i blant na fyddai’n gallu manteisio ar ein canolfan fel arall, ac rydym yn ddiolchgar dros ben am yr holl roddion ychwanegol y gallai’r ymwelwyr eu cynnig. 

Gwelwch ein ffioedd mynediad yma 

Archebu Rŵan

Bydd gofyn ichi dalu gyda cherdyn os ydych chi’n trefnu’ch ymweliad ar-lein. Mae croeso i’r ymwelwyr sy’n prynu tocyn yn y ganolfan dalu gyda cherdyn neu arian parod. Rydym yn derbyn taliadau arian parod, siec bersonol (hyd at werth eich cerdyn banc), Visa a MasterCard yn ein caffi ac ein siop anrhegion. 

Archebu Rŵan

Mae Xplore! yn 17 Stryd Henblas, Wrecsam, LL13 8AE. Mae gennym ni ddwy fynedfa, un ar ochr Stryd Henblas ac un ar ochr Stryd Caer, union gyferbyn â Tŷ Pawb ac yng nghanol Wrecsam. 

Archebu Rŵan

Rydym wedi lleihau ein horiau agor o ddydd Llun i ddydd Iau (gan ein bod yn cynnal sesiynau i grwpiau o ysgolion). Ffoniwch ni ar 01978 293400 i wirio’r amseroedd agor cyn eich ymweliad.  

 

Ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul a holl wyliau ysgol Wrecsam, mae’r ganolfan ar agor o 9.30-4.30. 

 

Yn ogystal â’n gofod arddangos, mae ein siop wyddoniaeth ac ein caffi ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 9.30-4.30. 

 

Archebu Rŵan

 

 

Yn ôl arolygon yr ymwelwyr, mae’r ymwelydd cyffredin yn treulio rhwng 2 i 3 awr yma ond mae croeso ichi aros cyhyd ag y dymunwch ac fe allwch chi fynd a dod fel y mynnoch chi yn ystod y dydd gydag eich tocyn. Fel rhan o’ch ymweliad a’ch ffi mynediad i Xplore! bydd cyfle ichi fwynhau sioe wyddoniaeth fyw felly cofiwch neilltuo amser ar gyfer hyn yn ystod eich ymweliad.

Archebu Rŵan

Mae gennym ni gaffi ar y safle sy’n cynnig detholiad o frechdanau, cacennau, diodydd, byrbrydau ynghyd â pizzas wedi’u coginio’n ffres. Rydym yn darparu ar gyfer cymaint o ofynion dietegol gwahanol â phosibl ac os ydych chi’n ansicr, bydd ein staff yn fwy na pharod i wirio’r cynhwysion ichi. 

Mae ein caffi yn y ganolfan ac mae man gwylio yno i’r rheiny ohonoch sydd eisiau hoe fach gan gadw golwg ar eich rhai bach. 

Archebu Rŵan

Ydy, rydym yn ymroi i sicrhau bod y ganolfan mor hygyrch â phosibl.  

 

  • Mae gan Xplore! fynediad gwastad drwy’r ddau brif ddrws mynediad. 
  • Mae dolen glyw ger ein mynedfa ac ein hardaloedd derbynfa. 
  • Mae ein caffi ac ein Siop Wyddoniaeth ar agor i’r cyhoedd yn ogystal ag Ymwelwyr i Xplore! 
  • Mae arddangosion o bob math ac ar wahanol uchderau yn yr ardal arddangos. Cofiwch ofyn i aelod o staff os oes angen unrhyw gymorth arnoch chi. 
  • Mae gennym ni ardal golau isel, theatr a dwy ystafell weithdy. 
  • Mae gennym ni ardal i gadw cadeiriau olwyn a bygis, loceri i ymwelwyr ac ardal picnic ar gyfer ein hymwelwyr. 
  • Mae gennym ni dai bach i ddynion a merched yn ogystal â dau dŷ bach niwtral o ran rhywedd a thai bach hygyrch ynghyd â chyfleusterau newid babanod. 
  • Mae croeso i gŵn cymorth yma. 
  • Mae Xplore! yn cydnabod y cynllun laniard blodau’r haul ac mae nifer o’n staff wedi derbyn hyfforddiant ffrindiau dementia gan y Gymdeithas Alzheimer’s a hyfforddiant ymwybyddiaeth awtistiaeth gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth. 
  • Cyfleuster mannau newid cwbl hygyrch ar gyfer oedolion a phlant 

Gallwch fwrw golwg ar ein datganiad hygyrchedd llawn yma 

Archebu Rŵan

Oes! Mae ein cynllun aelodaeth flynyddol yn cynnig mynediad anghyfyngedig am 12 mis i ymwelwyr sy’n rhatach na phris pedwar ymweliad ar wahân. Os ydych chi’n bwriadu ymweld â ni o leiaf pedair gwaith mewn blwyddyn, dyma’r ffordd rataf ichi dalu. Mae aelodau yn derbyn gostyngiad o 10% yn ein siop ynghyd â buddion ychwanegol megis gostyngiadau ar ddigwyddiadau arbennig.

Archebu Rŵan

Mae’n rhaid i blant 14 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn bob amser yn ystod eu hymweliad. 

Gallai pobl ifanc 15-17 oed ddod i’r ganolfan ar eu pen eu hunain ond bydd angen manylion cyswllt person mewn argyfwng arnom. 

Yn anffodus ni allwn ganiatáu i blentyn ddod i’r ganolfan oni bai eu bod nhw yng nghwmni oedolyn cyfrifol 18 oed neu hŷn. Rydym yn gorfodi’r rheol hon yn llym.  

Archebu Rŵan

Caiff yr holl eiddo coll ei gyflwyno i’r dderbynfa. Cofiwch wirio yno cyn ichi adael y ganolfan i weld ydy eich eitem wedi’i ganfod. Os oes angen ichi wirio ar ôl eich ymweliad, ffoniwch 01978 293400. 

Archebu Rŵan

Mae meysydd parcio yn dafliad carreg o’n canolfan. Y meysydd parcio agosaf ydy rhai Cyngor Wrecsam yn Tŷ Pawb (LL13 8BY), Waterworld (LL13 8BG) a’r Llyfrgell (LL11 1WS). 

Os oes angen maes parcio i goetsis arnoch chi, cysylltwch gyda ni drwy ffonio neu e-bostio info@xplorescience.co.uk 

Archebu Rŵan

Cysylltu gyda Ni

Os na allwch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yma – cysylltwch gydag ein tîm cyfeillgar drwy’r ffurflen isod – byddem yn fwy na pharod i helpu!

"*" indicates required fields

Cysylltu gyda Ni

Os na allwch chi ddod o hyd i’r ateb i’ch cwestiwn yma – cysylltwch gydag ein tîm cyfeillgar drwy’r ffurflen isod – byddem yn fwy na pharod i helpu!

"*" indicates required fields

Skip to content