Skip to content

Effaith eich cymorth arnom ni

Mae Xplore! yn elusen addysgol sy’n dibynnu ar gyllid i fodloni ein nodau ac amcanion elusennol. Rydym yn bwrw iddi i drawsnewid bywydau a gydag eich cymorth chi, gallwn ymwneud gyda mwy o bobl nac erioed.

Pob blwyddyn rydym yn mynd ati i ymgysylltu gydag oddeutu 70,000 o bobl ledled Wrecsam, Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Rydym yn cyflawni hyn drwy eu croesawu i’n canolfan ymwelwyr, sef gofod sy’n dod â gwyddoniaeth yn fyw gydag ein harddangosion hwyl a rhyngweithiol. At hyn, rydym yn cynnig gweithdai hwyl ac sy’n ennyn diddordeb i grwpiau ysgolion. Ein nod ydy cysylltu gydag ein cymunedau lleol nad ydyn nhw’n derbyn gwasanaeth digonol mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw drwy ein gweithgareddau allgymorth. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda nhw i greu gweithgareddau STEM ar y cyd sy’n gweddu iddyn nhw ac yn diwallu eu hanghenion nhw.

Hoffem sicrhau bod pawb yn cael eu hysbrydoli gan wyddoniaeth ond mae’n amhosibl inni wneud hynny ar ein pen ein hunain. Rydym yn gofyn am gymorth gan unigolion, deiliaid grantiau a noddwyr corfforaethol. Os allwch chi fod o gymorth, dewiswch un o’r opsiynau isod i wybod mwy.

Unigolion – Ffyrdd o Gefnogi Ni

Beth am brynu tocyn ychwanegol y gellir ei rannu gyda rhywun sy’n llai ffodus er mwyn iddyn nhw allu ymweld â’r ganolfan yn rhad ac am ddim. Dewiswch docyn ‘talu ymlaen’ ychwanegol pan fyddwch chi’n talu a gallwn sicrhau y byddwn yn ei rannu gyda’r bobl fwyaf haeddiannol drwy ein cysylltiadau Reaching Wider.

Rydym yn cydweithio gyda Loteri Wrecsam. Talwch £1 yr wythnos i fod â’r cyfle i ennill y wobr fawr o £25,000. Bydd 50% o’ch punt yn mynd tuag at Xplore! a 10% at achosion eraill yn Wrecsam.

Ymunwch â’r loteri

Gwelwch ein cyfleoedd cyfredol yma

Busnesau – Ffyrdd o Gefnogi Ni

Helpwch i leddfu pwysau ariannol eich ysgol leol gan noddi ymweliad ysgol wedi’i ariannu’n llawn i Xplore! Mae prisiau’n cychwyn o £300 fesul dosbarth a gellir eu huwchraddio yn dibynnu ar eich cyllideb Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol neu Amgylcheddol, Cynaliadwyedd a Llywodraethu.

Darllen astudiaeth achos gan bartner

 

Ydych chi’n awyddus i ymgysylltu gyda disgyblion ond yn ansicr ynghylch sut i fynd rhagddi? Mae Xplore! yn cydweithio gyda mudiadau sy’n dymuno hyrwyddo eu busnes, cynnyrch neu brosiect sy’n ymwneud â gyrfaoedd. Bydd Xplore! yn cydweithio gyda chi i drosi pynciau cymhleth i fod yn weithgareddau hwyl a rhyngweithiol.

 

Darllen astudiaeth achos gan bartner

 

Rhowch enw eich cwmni neu frand gyferbyn ag un o’n harddangosion poblogaidd. Bydd yn gyfle ichi hyrwyddo eich brand drwy helpu Xplore! i gynnal ein harddangosfa a chynnig diwrnod allan gwerth chweil i deuluoedd. Prisiau’n cychwyn o £50 yr arddangosyn y mis.

 

Skip to content