Skip to content

Mae unrhyw ymweliadau caiff eu trefnu ymlaen llaw ar gyfer Xplore! Gwyddoniaeth ac Xplore! Natur ar ein system cadw lle ar-lein yn amodol ar y telerau canlynol:

    • Pan fyddwch yn archebu tocynnau ar-lein, byddwch yn derbyn e-bost gyda’r manylion a fyddai’n brawf

    o’ch pryniant.

    • Cofiwch ddod â’ch prawf o bryniant gyda chi, gallwch ei ddangos ar eich ffôn neu ar bapur os oes angen.
    • Bydd tocynnau ond yn ddilys ar gyfer y dyddiad a nodwyd.

Canslo

Os nad oes modd ichi ddod i’ch sesiwn sydd wedi’i drefnu, byddwn yn ceisio symud eich tocynnau i ddiwrnod arall. Oherwydd statws elusennol Xplore! fe gaiff yr holl arian rydym ni’n ei dderbyn ei ail-fuddsoddi er mwyn cefnogi ei nodau elusennol; gan hynny byddwn ond yn cynnig ad-daliadau mewn amgylchiadau eithriadol. E-bostiwch info@xplorescience.co.uk os gwelwch yn dda.

Goruchwyliaeth

Mae Xplore! yn croesawu ymwelwyr o bob oedran, fodd bynnag mae’n rhaid i ymwelwyr 13 oed ac ieuengach fod yng nghwmni oedolyn 18 oed neu hŷn. Ni ddylai plant fod ar eu pen eu hunain yn yr arddangosfa neu unman arall yn yr adeilad yng Nghanolfan Gwyddoniaeth Xplore! nac unman ar safle Xplore! Natur.

Mae’n rhaid i unrhyw ymwelwyr sydd rhwng 14 a 17 oed sy’n ymweld heb oruchwyliaeth ddarparu enw cyswllt mewn argyfwng (caiff y manylion eu dinistrio ar ôl eu hymweliad).  Gofynnwn yn garedig ichi drin ein canolfan ac ein staff gyda pharch. Os gwelwn unrhyw ymwelwr yn cam-drin unrhyw eitemau neu bobl, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn ichi adael y ganolfan.

Telerau ac amodau Aelodaeth Xplore! Gwyddoniaeth

Bydd pob aelodaeth flwyddyn caiff eu prynu o Xplore! yn rhwym i’r telerau ac amodau canlynol, (caiff eu cyfeirio atyn nhw fel tocynnau blwyddyn o hyn ymlaen).

  1. Mae tocynnau blwyddyn ond yn ddilys am 12 mis yn unig, ac ar ôl hynny bydd angen eu hadnewyddu am bris llawn.
  2. Mae gan aelodau hawl i fynediad diderfyn i Xplore! pan fydd yr arddangosfa ar agor ar gyfer mynediad cyffredinol. Rydym yn argymell yn gryf ichi gadw lle ymlaen llaw.
  3. Ni ellir defnyddio tocynnau blwyddyn ar gyfer ymweliadau ysgol, ymweliadau grŵp, ymweliadau sgowtiaid / geidiaid, partïon pen-blwydd, ymweliadau Xplore! Natur nac ar gyfer digwyddiadau arbennig.
  4. Mae hawl gan aelodau fanteisio ar ostyngiad o 10% yn ein siop wyddoniaeth ynghyd â mynediad gostyngol i’r ganolfan i hyd at 6 o westai. Mae’n rhaid i ddeiliad y tocyn blwyddyn fod yn bresennol i fanteisio ar y buddion hynny.
  5. Ni ellir ad-dalu’r taliadau am docynnau blwyddyn ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol ac fel y barno’r Cydlynydd Archebion a Gweinyddol yn ddoeth

Gofalwyr

Gallai ymwelwyr gydag anableddau (sy’n talu’r ffi oedolyn / plentyn llawn) ddod ag un gofalwr* gyda nhw yn rhad ac am ddim. Os oes angen mwy nac un gofalwr arnoch chi, cofiwch roi gwybod inni os gwelwch yn dda

Cofiwch ddod â thystiolaeth berthnasol o’ch hawl. Er enghraifft, cerdyn Adnabod gan asiantaeth, llythyr neu lyfr Lwfans Byw i’r Anabl / Taliad Annibyniaeth Personol (wedi’i gyflwyno gan swyddfa’r Adran Gwaith a Phensiynau) neu Fathodyn Glas.

*Sylwch, er mwyn ichi fod yn gymwys fel gofalwr yng nghwmni ymwelydd i Xplore! mae’n rhaid ichi fod yn 16 oed neu’n hŷn

Talebau Anrheg

  1. Ni allwch gyfnewid talebau anrheg am arian parod, eu dychwelyd na derbyn ad-daliad amdanyn nhw.
  2. Gallwch gyfnewid talebau anrheg ar gyfer mynediad i’r ganolfan wyddoniaeth, neu ar gyfer cynnyrch yn ein siop a chaffi.
  3. Ni allwn fod yn atebol am dalebau anrheg sydd wedyn yn cael eu colli, eu dwyn neu eu difrodi. Mae hawl gennym ni wrthod derbyn taleb anrheg rydym yn meddwl sydd wedi’i ymyrryd â hi, ei dyblygu neu wedi’i difrodi.

Canmoliaethau neu bryderon

Yma yn Xplore! rydym yn falch iawn o dderbyn unrhyw adborth. Os hoffech chi rannu adborth gyda ni, gallwch wneud hynny mewn sawl ffordd:

  • Wyneb yn wyneb – gofynnwch i gael siarad gyda’r goruchwyliwr os hoffech chi rannu adborth gyda ni yn ystod eich ymweliad i Xplore! Byddan nhw’n rhannu unrhyw ganmoliaethau gyda’r tîm, neu byddan nhw’n gwneud eu gorau glas i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon sydd gennych chi am eich ymweliad.
  • Dros E-bost – Os hoffech chi rannu adborth gyda ni ond yn methu ag ymweld â ni yn y ganolfan, anfonwch e-bost at info@xplorescience.co.uk a byddwn yn cysylltu’n ôl gyda chi cyn gynted â
  • Yn ysgrifenedig – Os ydy hi’n well gennych chi rannu eich adborth yn ysgrifenedig, mae yna ffurflenni adborth ar gael yn y ganolfan neu gallwch anfon e-bost at:

 

Cydlynydd Archebion a Gweinyddol

 

Xplore!

 

17 Stryd Henblas

 

Wrecsam

 

LL13 8AE

Skip to content