Skip to content

Ymweld â’r Ganolfan 

Rydym yn llawn cyffro i’ch croesawu chi i’n canolfan wyddoniaeth! Atyniad i’r teulu oll ym mhob tywydd yng nghanol Wrecsam. 

Dewch i gael blas ar ein holl atyniadau, o’n harddangosion gwych, i’n sioeau gwyddoniaeth rhyngweithiol byw, ein caffi cymunedol ar y safle, ein siop wyddoniaeth sy’n llawn dop o nwyddau, ystafelloedd gallwch eu llogi’n breifat a mwy 

Cyfarwyddiadau i gyrraedd Xplore!

Gallwch ddod o hyd inni yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, 17 Stryd Henblas, LL13 8AE 

 O Gaer, yr M53, M56 ac arfordir Gogledd Cymru, teithiwch ar hyd yr A55 at gyffordd A483 (gydag arwydd ar gyfer Wrecsam). Teithiwch tua’r de ar yr A483 gan ymadael ar gyffordd 6 a chymryd y trydydd allanfa (A5152) tua chanol dinas Wrecsam (Stryd Caer).  

O Groesoswallt, Canolbarth Lloegr a Chanolbarth Cymru, teithiwch ar hyd yr A483 tua’r gogledd at Wrecsam. Dilynwch yr arwyddion gwybodaeth twristiaeth brown o Gyffordd 5 (A541) at ganol y ddinas. 

Mae meysydd parcio yn dafliad carreg o’n canolfan. Y meysydd parcio agosaf at y ganolfan ydy meysydd parcio Cyngor Wrecsam yn Nhŷ Pawb (LL13 8BY),  Waterworld (LL13 8BG) a’r Llyfrgell (LL11 1WS). 

Gallwch ddod o hyd inni yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, 17 Stryd Henblas, LL13 8AE 

Mae gorsaf drenau cyffredinol Wrecsam ond yn 1/2 milltir (12 munud ar droed) o’r ganolfan. Pan fyddwch chi’n gadael Gorsaf Gyffredinol Wrecsam, cerddwch ar hyd Stryd y Rhaglaw (Regent) (A451) tua’r de-ddwyrain at ganol y ddinas. Cerddwch ar hyd Stryd yr Hôb cyn troi i’r chwith at Stryd y Frenhines ac yna trowch i’r dde at Stryd Henblas. Fe welwch chi Xplore! yn syth o’ch blaen! 

Mae Xplore! wedi’i ymrwymo i ddyfodol sero net ac rydym yn annog pob un o’n hymwelwyr i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy. 

Gallwch ddod o hyd inni yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, 17 Stryd Henblas, LL13 8AE 

Mae gorsaf Fysiau Wrecsam ond yn daith 6 munud ar droed o’r ganolfan. Unwaith ichi adael yr orsaf fysiau, dilynwch Stryd yr Arglwydd tua’r de-ddwyrain at sgwâr y Frenhines. Croeswch y sgwâr a cherddwch tua’r dde i lawr Stryd y Frenhines. Trowch i’r chwith at Stryd Henblas ac fe welwch chi Xplore! yn syth o’ch blaen. 

 Mae Xplore! wedi’i ymrwymo i ddyfodol sero net ac rydym yn annog pob un o’n hymwelwyr i wneud dewisiadau teithio cynaliadwy. 

Beth i’w ddisgwyl ar eich taith dydd i Xplore!

01
Rhowch wybod i staff y dderbynfa eich bod chi wedi cyrraedd
02
Mwynhewch damaid neu baned yn y caffi.
03
Ewch i’r loceri a’r man gadael bygis i adael eich bagiau ac ati.
04
Mae gan Xplore! dros 85 o arddangosion rhyngweithiol yn ogystal â’n sioe wyddoniaeth fyw ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol Wrecsam.
05
Ewch i fwrw golwg yn y Siop Wyddoniaeth a nôl tamaid bach i fwyta o’n Caffi.
06
Cofiwch dynnu lluniau i gofio am eich profiad!

Cysylltwch gyda ni i drefnu eich ymweliad heddiw!

Oes gennych chi gwestiynau am eich taith o hyd? Anfonwch neges atom

"*" indicates required fields

Cysylltwch gyda ni i drefnu eich ymweliad heddiw!

Oes gennych chi gwestiynau am eich taith o hyd? Anfonwch neges atom

"*" indicates required fields

Skip to content