Skip to content

Xplore! ydy prif Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Gogledd Cymru gan ddenu teuluoedd, twristiaid, grwpiau cymunedol a grwpiau ysgolion o bob oedran. 

 

Mae Xplore yn atyniad i ymwelwyr ac yn elusen addysgol yng nghanol Wrecsam. Rydym yn is-gwmni i Brifysgol Wrecsam ac yn bodoli i sicrhau bod cymunedau lleol a rhanbarthol yn ymwneud gydag ac yn angerddol dros wyddoniaeth gan gyfoethogi bywydau dros 70,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. 

 

Ein Diben 

 

Gweithredu fel cartref gwyddoniaeth. I gydweithio gyda chymunedau, gan feithrin ymddiriedaeth, ennyn chwilfrydedd a chodi dyheadau. Ennyn diddordeb ac ysbrydoli cymunedau i barhau gyda’u taith addysg y tu hwnt i Xplore! 

 

Ein Gweledigaeth 

 

Gweld cymunedau lleol a rhanbarthol yn ymwneud gydag ac yn angerddol dros wyddoniaeth. 

 

Ein Nod 

 

Rydym yn cyfathrebu ac yn rhannu gwyddoniaeth mewn ffyrdd cyffrous ac arloesol gyda phawb waeth beth fo’u hoedran, gallu neu gefndir. 

 

Ein Gwerthoedd 

 

  • Cefnogol – teulu gwaith agos sy’n dathlu llwyddiannau ei gilydd. 
  • Dysgwyr yn ganolog – rhannu gwybodaeth ac arferion gorau; gweithredu fel pont rhwng y gymdeithas a gwyddonwyr. 
  • Hollgynhwysol – o ran eraill drwy werthfawrogi ac annog amrywiaeth yn y gweithle ynghyd â bwrw iddi’n weithredol i ennyn diddordeb cymunedau.  
  • Angerddol – am ein planed; gweithio’n ddiwyd i greu canolfan amgylcheddol gynaliadwy. 
  • Balch – o’n diwylliant Cymreig ac ein nodau ac amcanion elusennol. 

I wybod mwy am ein trefn llywodraethu, gwelwch 

Prif flaenoriaethau

01
Byddwn yn ennyn chwilfrydedd, gan gynnig profiadau ‘syfrdanol’ drwy ein gweithgareddau rhyngweithiol. Byddwn yn meithrin amgylchedd lle mae barn pawb o bwys.
02
Byddwn yn meithrin ymddiriedaeth drwy wrando ar a gweithredu ynghylch adborth. Byddwn yn gweithio gyda gonestrwydd ac uniondeb i gynnig gwybodaeth wyddonol gywir a chynnyrch o safon.
03
Byddwn yn ysbrydoli ac yn ymwneud gydag ein staff gan ddathlu a rhannu ein llwyddiannau.
04
Byddwn yn cydweithio mewn ffordd arloesol gyda phartneriaid, cydweithwyr a chymunedau.
05
Byddwn yn diogelu Xplore! ar gyfer y dyfodol, gan geisio sicrhau cynaliadwyedd ariannol yr elusen am genedlaethau i ddod.
Skip to content