Skip to content

Ymweld â chaffi Xplore!

Mae ein caffi pwrpasol yn ein gofod mynediad am ddim sy’n cysylltu dwy ochr o’r ddinas gyda’i gilydd. Gallai unrhyw un ddod i’r caffi a does dim angen tocyn mynediad arnoch; mae croeso cynnes i bobl sy’n teithio heibio a gweithwyr yng nghanol y ddinas alw draw am damaid bach yn ogystal â theuluoedd sy’n ymweld â’n canolfan. 

Gynnyrch Cymreig
Rydym yn falch o fod yng nghanol dinas Wrecsam yng Ngogledd Cymru ac rydym yn bwriadu bwrw iddi i gynnig rhagor o gynnyrch Cymreig yn ein caffi, gan rannu’r blas gorau posibl o Gymru gydag ein hymwelwyr. 

Bwyd Poeth
Rydym yn cynnig bwyd poeth o 12yp tan 3yp 7 diwrnod yr wythnos gan gynnwys pizzas blasus wedi’u coginio’n ffres. Hefyd y tu hwnt i’r oriau hynny, gallwch fwynhau tost, teisennau cri a diodydd poeth drwy’r dydd yn ein caffi sydd â sgôr hylendid o 5. 

Cacennau a danteithion
Mae’r Caffi Gwyddoniaeth yn cynnig amrywiaeth o gacennau blasus dros ben ynghyd â byrbrydau a diodydd eraill. Os oes gennych chi ddant melys, mae ein cynnig arbennig Coffi a Chacen pob dydd Iau lle gallwch ddewis cacen ac unrhyw ddiod boeth am ddim ond £2.50! 

Brechdanau a Cynigion Arbennig
Pob penwythnos ac yn ystod gwyliau’r ysgol byddem yn cynnig brechdanau ffres. Dewch i weld ein cynnig arbennig i blant lle gallwch ddewis brechdan, byrbryd a diod. 

Gweler ein bwydlen yma

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

Ystafelloedd Ymolchi
Mae cyfleuster newid babanod ar gael yn ogystal â chyfleusterau tŷ bach niwtral o ran rhywedd i gwsmeriaid.
Cynhesu poteli
Byddai ein staff Croesawu yn fwy na pharod i gynhesu poteli ar gyfer babanod.
Llogi ein caffi
Gallwch logi ein caffi yn rhad ac am ddim i grwpiau bach 7 diwrnod yr wythnos o 9:30 tan 16:30.
Ailgylchu
Rydym yn defnyddio cyn lleied â phosibl o blastig un defnydd yn ein caffi drwy ddefnyddio cynhwyswyr cludo bwyd bioddiraddadwy. Helpwch ni drwy ategu ein nod a defnyddio’r biniau ailgylchu sydd wedi’u darparu.

Mae’n bosibl y byddwch yn awyddus i glywed am…

Skip to content