Skip to content
Xplore Nature - Logo
Yn 2023 bu i Xplore! ymestyn ein harlwy addysg i gynnig safle ysgol goedwig wych ar gampws Prifysgol Wrecsam yn Llaneurgain.

Mae Xplore! Natur yn ofod hollgynhwysol a deniadol lle mae gweithgareddau gwyddoniaeth blaenllaw Xplore! a darpariaeth ysgol goedwig yn dod ynghyd.

Mae’r gofod yn ymestyn 95 dros erw ac yn gymysgedd bendigedig o hen goed collddail, llwybrau diddorol ac anturiaethau anhygoel.

Mae’r safle yn meddu ar hanes cyfoethog a bu’n cael ei ddefnyddio’n gyson ers dros fil o flynyddoedd o wersyll carcharorion rhyfel o’r 2il ryfel byd i gastell Normanaidd; ac erbyn hyn mae Xplore! Natur wedi meddiannu’r tir i ategu hanes anhygoel y safle.

Rydym wedi llunio amrywiaeth o weithgareddau addysg awyr agored sy’n hwyluso casglu gwybodaeth a datblygu cymdeithasol gan helpu ymwelwyr o bob oedran i feithrin cysylltiad gyda’n byd o’n cwmpas.

Dyma ein sesiynau Xplore! Natur presennol:

  • Sesiynau Aros a Chwarae i blant bach – trefnwch eich sesiwn heddiw
  • Partïon pen-blwydd yn y goedwig
  • Sesiynau ysgol goedwig ar gyfer teithiau ysgol
  • Sesiynau i grwpiau cymunedol
  • Adeiladu Tîm i Gwmnïau a sesiynau meddylgarwch

Cwblhewch y ffurflen isod neu ffoniwch 01978 293400 i wybod mwy.

Nodweddion y safle

Mae’r safle wedi’i rhannu’n ddwy ran;

  1. Mae gan y rhan uchaf bwll tân a seddi. Mae matiau addas ar gyfer cadeiriau olwyn a llwybrau graddedig sy’n golygu ei fod yn addas i bawb.
  2. Mae’r rhan isaf yng nghanol ein safle coedwig, ymysg 5 erw o goedwig gyda phwll tân, cyfarpar turnio a chyfleusterau tŷ bach.

Ein Lleoliad

Mae Xplore! Natur ar gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam. Y cyfeiriad ydy Gwibffordd Gogledd Cymru, Llaneurgain, Yr Wyddgrug, CH7 6AA.

Gallwch ddod o hyd i Xplore! Natur drwy ail fynediad y campws, lle mae’r arwydd campws Prifysgol Wrecsam. Dilynwch y ffordd tua chefn y campws a pharciwch ym mhen pellaf y maes parcio ger y cwt sydd â ffens lwyd o’i amgylch.

 

Dysgu mwy

Hoffech chi fwy o wybodaeth am Xplore! Natur? Cysylltwch gyda ni heddiw!

"*" indicates required fields

Dysgu mwy

Hoffech chi fwy o wybodaeth am Xplore! Natur? Cysylltwch gyda ni heddiw!

"*" indicates required fields

Skip to content