Skip to content

Ymlaciwch a pheidiwch â phoeni am y drafferth o drefnu parti drwy gynnal parti yma yn Xplore!

Mae ein Partïon Pen-blwydd poblogaidd yn cael sêl bendith plant o bob rhan o Wrecsam a thu hwnt. Byddai dathlu gydag Xplore! yn rhwydd ac yn ddidrafferth. Bydd y plant yn cael modd i fyw a bydd yn werth am arian gwych ichi! Rydym yn cynnig pob math o themâu partïon ac yn cynnig y canlynol:

  • Mynediad i’r ganolfan ac amser rhydd i roi cynnig ar ein 85+ o arddangosion rhyngweithiol.
  • Gweithgaredd ymarferol yn ymwneud â Sleim, Rocedi neu Ddinosoriaid
  • Cyflwynydd yn arbennig ar gyfer eich parti
  • Aelodaeth Flynyddol ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd
  • Potel diod Xplore! ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd
  • Bag parti ar gyfer pob plentyn gyda: Llyfr nodiadau, pensil, peth i roi am ben pensil, miniwr a thocyn blwyddyn ar gyfer y plentyn sy’n dathlu eu pen-blwydd.

Yn ogystal â’r manteision uchod, gallwch hefyd ddewis prynu gwahoddiadau dwyieithog sydd wedi’u dylunio a’u hargraffu’n broffesiynol am ffi ostyngol. Gallwch hefyd lawr lwytho ac argraffu’r gwahoddiadau am ddim os hoffech chi.

Mae partïon yn Xplore yn £15 fesul plentyn gyda bwyd neu £11 fesul plentyn heb fwyd.

 

Blaendaliadau

Unwaith y byddwch chi wedi trefnu eich parti, byddwn yn gofyn am flaendal na ellir ei ad-dalu o £30 ymhen wythnos i sicrhau eich dyddiad dewisol.

Themâu Partïon Pen-blwydd ar gyfer 20+ o blant

Ar gyfer partïon gyda dros 20 o westeion, yn lle gweithdy gyda thema arbennig, rydym yn cynnig sioe wyddoniaeth fyw ar y thema pen-blwydd sydd ond ar gael ar gyfer partïon mwy. Yn y sioe hon mae gofyn i’r gynulleidfa gyfrannu’n sylweddol ac ar ôl y parti bydd pob un o’r gwesteion yn derbyn bag bach o gyfarpar i gynnal eu harbrofion gwyddoniaeth eu hunain yn eu cartref.

Llogi ar gyfer Partïon yn Arbennig

Gallwch logi’r ganolfan yn arbennig ar gyfer partïon ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol o 4yp-6yh a bydd cyfle ichi fwynhau sioe arbennig o 4yp tan 4.30yp. Hefyd bydd cyfle i’ch parti ddefnyddio’r ganolfan gyflawn a’r holl arddangosiadau o 4.30yp nes bydd y canolfan yn cau am 6yh. Byddwn yn codi ffi ychwanegol o £150 i gynnal parti o’r fath.

Cwestiynau parti pen-blwydd

Dewiswch o 3 thema: Sleim, Rocedi neu Ddinosoriaid.

Gallwch drefnu partïon bob dydd Sadwrn a Sul ac yn ystod gwyliau ysgol Wrecsam.

 

Mae ein partïon yn fwyaf poblogaidd ymhlith plant o 5-10 oed.

Darganfyddwch fwy ac archebwch eich parti heddiw

"*" indicates required fields

Darganfyddwch fwy ac archebwch eich parti heddiw

"*" indicates required fields

Skip to content