Siop Wyddoniaeth Xplore!
Ynghyd ag ein harddangosfa, mae Xplore! yn falch o fod yn gartref i unig siop wyddoniaeth pwrpasol Wrecsam!
Mae’r siop ar agor o 9:30yb tan 4:30 bob dydd, a does dim rhaid ichi ddod i mewn i’r arddangosfa wyddoniaeth i fwrw golwg ar neu brynu ein detholiad gwych o nwyddau!
Rydym yn cynnig nwyddau di-ri sy’n ymwneud â Bioleg, Ffiseg, Seryddiaeth, Adeiladu, Roboteg, Dinosoriaid, Gwyddoniaeth Cyfrifiadureg a Chemeg felly mae gennym ni rywbeth at ddant gwyddonol pawb. Os ydych chi’n chwilio am syniad pen-blwydd, neu unrhyw ddathliad arall bydd gennym ni’r anrheg berffaith i’r person arbennig hwnnw dan sylw, ac os ydych chi’n dal yn ansicr gallwch siarad gydag ein staff cymwynasgar all eich rhoi chi ar ben ffordd gyda phopeth yn ein siop.
Felly y tro nesaf y byddwch chi yn Wrecsam, beth am ddod draw i fwrw golwg ar ein heitemau gyda llu o gynigion a gostyngiadau drwy gydol y flwyddyn!
Oes gennych chi docyn blwyddyn? Cofiwch fanteisio i’r eithaf ar eich gostyngiad o 10% oddi ar bopeth yn ein siop wyddoniaeth!
Ddim yn Ddeiliad Tocyn Blwyddyn? Gallwch ganfod sut i gofrestru a manteisio ar fynediad anghyfyngedig i’r arddangosfa drwy gydol y flwyddyn.