Skip to content

Bu i ddwy ysgol leol fwynhau gweithdy gwyddoniaeth rhad ac am ddim yn ystod Wythnos Wyddoniaeth Prydain gyda diolch i Biopharm Ltd. Thema eleni ydy ‘cysylltiadau’, a pha ffordd well o ddathlu’r thema na meithrin cysylltiad rhwng disgyblion ysgol a chyflogwr sylweddol yr ardal yn eu canolfan wyddoniaeth leol.

Gofynnwyd i staff yn Ipsen am awgrymu ysgolion yr hoffan nhw elwa o’r trip ac fe estynnwyd gwahoddiad i’r 2 ddosbarth lwcus ymweld ag Xplore! ddydd Mawrth diwethaf. Bu cyfle i’r plant roi cynnig ar arddangosion Xplore! cyn mynd ati i fwynhau gweithdy o dan ofal tîm Xplore! a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau oedd wedi’u cynnal dan ofal hyrwyddwyr STEM gwych o gwmni Ipsen.

Soniodd cydlynydd hyrwyddwyr STEM Ipsen, Siân Richardson “roedd yn wych gweld cymaint o’n gwirfoddolwyr yn dod ynghyd ar gyfer y digwyddiad hwn. Roedd yn gyfle gwerth chweil i’n gwyddonwyr, technegwyr a pheirianwyr i gydweithio gyda’r disgyblion gan ddangos eu hangerdd tuag at eu gwaith o ddydd i ddydd, mewn ffordd hwyl a chyffrous. Roedd yn brofiad penigamp gyda diolch i’r tîm anhygoel yn Xplore! a wnaeth gynnig eu hamser a gofod er mwyn rhoi profiad rhagorol i’r holl ddisgyblion”.

Roedd Swyddog Datblygu Busnes Xplore!, Katie Williams wedi mwynhau’r diwrnod yn arw gan ddweud “roedd cyfraniad Ipsen at y diwrnod yn werth chweil. Roedd cynnig cysylltiad i’r byd go iawn ar gyfer y plant ysgol yn fodd o ddangos ein hymdrechion ni ar waith drwy amlygu’r cysylltiadau a bwrw iddi i ddangos, mewn ffordd hwyl a rhyngweithiol, sut gallai angerdd tuag at wyddoniaeth arwain at yrfa gyda chyflogwr diwydiant lleol ac uchel eu parch”.

Mae gwahoddiad i gyflogwyr lleol ymuno gyda’r mudiad i gefnogi eu hysgolion lleol drwy’r gweithgaredd newydd ac arloesol hwn sydd wedi’i noddi ar y cyd â chanolfan wyddoniaeth Xplore! yn Wrecsam drwy gysylltu gyda info@xplorescience.co.uk.

Skip to content