Skip to content

Grymoedd CA2

By admin

Ategu hanfodion deall grymoedd ac effaith y grym hwnnw ar wrthrychau. Bydd ein cyflwynydd yn cychwyn gyda hanfodion ‘Beth ydy grym?’. Yna bydd cyfle i’r disgyblion gymryd rhan mewn nifer o wahanol arbrofion i brofi damcaniaethau ynghylch sut mae grymoedd yn gweithio. Cyn gorffen y sioe caiff y gynulleidfa eu syfrdanu gan ein harddangosiad statig … Continued

Her Gollwng Ŵy

By admin

Ewch ati’n greadigol i amddiffyn eich ŵy rhag effeithiau disgyrchiant gyda pheirianneg fedrus. Bydd pob grŵp yn derbyn swp o ddeunyddiau y mae’n rhaid iddyn nhw eu defnyddio i amddiffyn ŵy rhag torri unwaith caiff ei ollwng o uchder. Bydd y cyflwynwyr yn trafod syniadau gyda’r dosbarth o ran sut gallan nhw amddiffyn eu hwyau … Continued

Adeiladu Pontydd

By admin

Cyfle i arbrofi gydag adeiladu, creu a datrys problemau o ran sut caiff pontydd a strwythurau eu creu. Gallai’r dysgwyr ddysgu am hanes a chynllun pontydd a beth sy’n sicrhau eu bod yn gadarn ac yn llwyddiannus. Bydd grwpiau yn derbyn cyfarwyddyd dylunio i adeiladu’r bont gryfaf gan ddefnyddio’r deunyddiau sydd wedi’u darparu ac yna … Continued

Pecyn Adeiladu

By admin

Dysgu sut i adeiladu siapiau mewn tîm ac yn unigol i greu siapiau a phatrymau 2D a 3D. Cychwyn gyda heriau sylfaenol i greu llythrennau 2D gan ddefnyddio blociau pren KAPLA. Wrth ichi fwrw ymlaen gyda’r gweithdy, bydd yr heriau’n dod yn fwyfwy anodd. Ymysg yr heriau posibl mae adeiladu’r tŵr uchaf i adeiladu pont … Continued

Codio LEGO WeDo 2.0

By admin

Bydd dysgwyr yn ymchwilio sut mae synwyryddion symud a gerau yn cyfuno â chod er mwyn dod â’r LEGO yn fyw. Amcanion Dysgu: • Dysgu sut i godio rhaglen syml i symud modelau LEGO. • Cyfuno codio ac adeiladu i symud model LEGO gan ddefnyddio synwyryddion. Rydym yn cynnig tri gweithdy ar wahân sy’n ymwneud … Continued

Cyflwyniad i EV3s

By admin

Mae ein gweithdy Cyflwyniad i EV3’s yn arbennig ar gyfer disgyblion hŷn ysgolion cynradd (Cyfnod Allweddol 2 Uwch) a disgyblion ieuengach ysgolion uwchradd  (Cyfnod Allweddol 3). Gan ddefnyddio EV3’s LEGO Mindstorms, bydd cyfle i’r disgyblion ddysgu sut i godio’r EV3’s i symud a defnyddio’u sgiliau sylfaenol i gwblhau heriau megis osgoi taro ffigyrau bach LEGO. … Continued

Skip to content