Skip to content

Bydd dysgwyr yn ymchwilio sut mae synwyryddion symud a gerau yn cyfuno â chod er mwyn dod â’r LEGO yn fyw.

Amcanion Dysgu:

• Dysgu sut i godio rhaglen syml i symud modelau LEGO.
• Cyfuno codio ac adeiladu i symud model LEGO gan ddefnyddio synwyryddion.

Rydym yn cynnig tri gweithdy ar wahân sy’n ymwneud â chodio ac adeiladu LEGO.

Mae ein gweithdy Gwyntyll Oeri yn arbennig ar gyfer disgyblion ieuengach fel cyflwyniad ar sut i adeiladu gyda LEGO gan ddefnyddio cyfarwyddiadau. Yna bydd y disgyblion yn defnyddio’r feddalwedd WeDo 2.0 i greu rhaglen syml er mwyn i’r wyntyll gylchdroi. Unwaith y bydd y model wedi’i adeiladu a’i godio, bydd yr heriau ychwanegol gan ein cyflwynwyr yn hybu’r disgyblion i gyflawni hyd eithaf eu gallu.

Mae ein gweithdy Milo y Robot yn arbennig ar gyfer disgyblion gydag ond ychydig o brofiad codio ond mae’n cynnig mwy o her adeiladu o gymharu â’r Wyntyll Oeri. Bydd y gweithdy yn ymwneud â moduron a synwyryddion ac mae modd ei ehangu yn rhwydd.

Mae’r gweithdy Crwydryn Lleuad yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion hŷn ysgolion cynradd. Bydd cyfle iddyn nhw adeiladu model cymhleth a chodio moduron a synwyryddion i dywys y crwydryn dros arwyneb y lleuad.

Termau Allweddol
Adeiladu
Archwilio
Codio
Cyfathrebu
Datrys Problemau
Dychymyg
Gwaith tîm
Peirianneg

Cysylltwch i wybod mwy neu i drefnu rhaglen.

Mae Xplore yn cynnig ystod eang o Weithdai, Sioeau a heriau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ac ar gyfer pobl o bob gallu. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gysylltu i ymholi am y gweithdai ac ati sydd ar gael neu i wybod mwy.

"*" indicates required fields

Cysylltwch i wybod mwy neu i drefnu rhaglen.

Mae Xplore yn cynnig ystod eang o Weithdai, Sioeau a heriau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau ac ar gyfer pobl o bob gallu. Gallwch ddefnyddio ein ffurflen gysylltu i ymholi am y gweithdai ac ati sydd ar gael neu i wybod mwy.

"*" indicates required fields

Skip to content