Skip to content

Bu inni estyn croeso i 24 o eglwysi i noson yn arddangos y gweithgareddau a’r cynnwys bu inni eu datblygu yn ystod y prosiect Xplore! yn mynd i’r eglwys.

Bu inni fwrw iddi gyda’r prosiect gan gydweithio gydag Eglwys Sant Marc ym Mharc Caia i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc 4-11 oed i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwyddoniaeth rhyngweithiol a ffydd. Ers cychwyn y prosiect yn ystod y cyfnod clo yn 2020, gyda chefnogaeth y mudiad ECLAS (Equipping Christian Leaders in an Age of Science) mae’r prosiect wedi denu 29 o eglwysi ledled Gogledd Cymru a Gogledd Ddwyrain Lloegr erbyn hyn.

Bu cyfle i fynychwyr y noson roi cynnig ar 4 gwahanol set o weithgareddau a’r themâu sydd wedi’u datblygu ynghlwm â nhw. Bu cyfle i ddysgu wrth gymryd rhan yn y gweithgareddau wrth echdynnu DNA, arbrofi gyda chylchedau, bwrw golwg ar gytserau awyr y nos a llawer iawn mwy.

Fe ddywedodd Clair Griffiths, y Cydlynydd Allgymorth Cymunedol a Chodi Arian, “Mae’r prosiect hwn yn meddwl y byd imi gan fy mod i wedi helpu ei ddatblygu, a hynny yn dilyn cwrdd gydag aelodau Eglwys Sant Marc ar hap. Mae’r prosiect yn prysur datblygu erbyn hyn”

Hoffem gydweithio gyda 26 o eglwysi eraill yn y misoedd nesaf ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut mae’r perthnasau sydd wedi’u meithrin yn sgil y prosiect hwn yn datblygu yn y blynyddoedd sydd i ddod”

Dywedodd Angela, o Eglwys Gynulleidfaol Gwersyllt “Diolch eto am y prosiect Xplore! yn mynd i’r Eglwys, gan gynnwys y drysorfa o adnoddau arbennig. Rydw i’n edrych ymlaen at ei rannu gyda’r arweinwyr eraill a’r plant yn Eglwys Gynulleidfaol Gwersyllt .”

Os hoffech chi neu eich eglwys gymryd rhan bydd sioe arall ar Ionawr y 25ain 2023. I gadw lle, ffoniwch 01978 293400 neu e-bostiwch projects@xplorescience.co.uk

Skip to content