Skip to content

Bu i atyniad gwyddoniaeth blaenllaw i ymwelwyr yng nghanol Wrecsam ddatgelu effaith lawn ei waith wrth ennyn diddordeb cymunedau drwy bynciau STEM. Wedi i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! symud i’w cartref newydd yn Stryd Henblas yn 2020 bu iddyn nhw lwyddo i ‘ragori ar y disgwyliadau’, gan ganolbwyntio ar greu profiad amrywiol i’w ymwelwyr.

Enw ffurfiol yr elusen ydy Techniquest Glyndŵr, ac mae hi’n dathlu ei 20 mlwyddiant ac mae cyfle ichi fwrw golwg ar waith yr elusen o ran meithrin partneriaethau gyda busnesau, cymunedau ac ysgolion yn ei Llyfryn Effaith 2022/23.

Trwy arddangosfeydd, sioeau a gweithdai gwyddoniaeth, gan gynnwys deg gweithgaredd newydd yn y rhaglen yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi llwyddo i ddenu 16,000 o ddysgwyr ysgol i gymryd rhan yn ein gweithgareddau allgymorth. At hynny, mae dros 6,000 o ddisgyblion wedi ymweld â’r ganolfan, sy’n golygu bod y niferoedd wedi dychwelyd i’r lefelau hynny cyn dyfodiad y pandemig.

Yn ogystal, bu i’r cyhoeddiad amlygu partneriaethau cryfach gan gynnwys digwyddiadau gwyddoniaeth a ffydd ar y cyd gydag Eglwys Sant Giles ynghyd â pharhad o’u gwaith gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality i hybu sgiliau ariannol plant a phobl ifanc.

Bu inni hefyd lwyddo i gynnig tocynnau am ddim i ffoaduriaid o’r Wcráin gyda diolch i gynnydd mewn ffrydiau cyllid. Yn dilyn llwyddiant y cynllun hwn, roedd modd inni fynd ati i’w estyn i bawb oedd yn ceisio lloches.

Bu inni gydweithio gyda phartneriaid newydd gan fwrw iddi i greu gweithdai datgarboneiddio, gan hyrwyddo llythrennedd carbon ar gyfer bron i 600 o ddisgyblion, ynghyd â chynnal diwrnod Awyrlu Brenhinol arbennig, lle bu cyn-beilot yn trafod ei gyrfa er mwyn ysgogi disgyblion i ddilyn gyrfa sy’n ymwneud â STEM.

Aeth y ganolfan ati i ail-frandio yn ystod y pandemig covid-19, a soniodd Jasbir Dhesi OBE, cadeirydd y bwrdd ymddiriedolwyr ei fod yn falch iawn o allu cychwyn arni yn 2023 heb heriau unrhyw gyfyngiadau cyfnod clo. Dywedodd “Fe ddylai’r tîm ymfalchïo yn eu dull arloesol i gynnal eu perthynas gyda’r gymuned ers yr adleoli ac mae’n gyffrous dros ben gweld presenoldeb cryf yng nghanol y ddinas yn ffynnu.

“Llwyddodd Xplore! i gael effaith sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf, gan ategu ymroddiad hirsefydlog y ganolfan tuag at ddysgu sy’n seiliedig ar wyddoniaeth ers ei lansiad 20 mlynedd yn ôl.

“Diolch o’r galon i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, ein cwmni rhiant, am eu cymorth parhaus.”

Ychwanegodd rheolwr canolfan Xplore!, Scot Owen “Bu’n flwyddyn anhygoel i’r tîm, gan lwyddo i atynnu’r un nifer o ymwelwyr â’r lefelau cyn covid, yn ogystal ag ennill gwobr aur Croeso Cymru, sy’n dyst o’n cyfraniad tuag at dwristiaeth yn y rhanbarth.

“Rydym wedi canolbwyntio ar gynnig ein hamser ac ein hadnoddau i ymwneud gyda phob cwr o’r gymuned drwy weithgareddau gwyddoniaeth, ac rydym wedi gweld effaith hyn pan fyddwn yn creu ymdeimlad o berthyn.

“Mae ein Llyfryn Effaith yn clodfori ymdrech y tîm i fynd y tu hwnt i’r galw a sicrhau gwaddol ar gyfer Wrecsam a thu hwnt.”

I wybod mwy ac i ddarllen y Llyfryn Effaith yn ei gyfanrwydd

Skip to content