Skip to content

Mae gwyddoniaeth ym mhob man o’n cwmpas, ond does dim modd i bawb fanteisio ar yr un cyfleoedd i ddysgu amdano a’i ddarganfod. Mae Xplore! o’r farn y dylai bod cyfle i bawb ymwneud gyda gwyddoniaeth, waeth beth ydy eu cefndir neu eu gallu. Gan hynny, rydym wedi mynd ati i greu gofod sy’n addas ac yn gweddu i bawb.

Roedd ein digwyddiad cynhwysiant cyntaf ym mis Mawrth yn llwyddiant ysgubol. Bu i’r unigolion presennol glodfori hyblygrwydd y gofod, y goleuadau braf a’r llu o wahanol ystafelloedd a oedd yn fodd i’r bobl ifanc fanteisio i’r eithaf ar y diwrnod. Mae Xplore! wedi llwyddo i greu gofod lle mae cyfle i bawb ddysgu am a mwynhau gwyddoniaeth mewn ffordd sy’n addas iddyn nhw.

Gyda diolch i Brosiect Effaith Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg, rydym yn gallu cynnig prisiau mynediad gostyngol ar gyfer eu tri digwyddiad cyntaf. Mae mynediad cyffredinol ond yn £5.50 a gallai gofalwyr fanteisio ar fynediad am ddim gyda thystiolaeth o’u statws gofalwr.

Peidiwch â phoeni os wnaethoch chi golli’r digwyddiad cyntaf! Mae dau ddigwyddiad gwerth chweil arall ar y gweill. Bydd y digwyddiadau o 9:30yb tan 4:30yp ar Ebrill y 23ain a Mai’r 14eg. Dewch draw i ddysgu, darganfod a mwynhau mewn ffordd sy’n gweddu ichi.

Mae Xplore! yn le delfrydol i unrhyw un ymwneud gyda gwyddoniaeth a dysgu pethau newydd, waeth beth ydy eich gallu. Peidiwch â cholli’r cyfle arbennig hwn i ymwneud gyda gwyddoniaeth mewn ffordd hwyl ac sy’n addas i bawb. Welwn ni chi yno!

Skip to content