Skip to content

Heddiw, fe gyhoeddodd Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! eu bod yn parhau i gydweithio gyda Chymdeithas Adeiladu’r Principality. Gyda diolch i rownd newydd o gyllid, bydd modd i Xplore! ymestyn eu sesiynau ysgol gynilo Cymdeithas Adeiladu’r Principality a lansio cyfres gyffrous o glybiau codio yn ystod yr haf eleni.

Bydd y cyllid hwn yn gyfle i ymwneud gyda 6,000 o bobl ifanc ychwanegol ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr drwy ein gweithgareddau ysgol gynilo’r Principality. Mae’r sesiynau hyn, sy’n arbennig ar gyfer dysgwyr ifanc, yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gynilo a rheoli arian ac yn cynnig profiad ymarferol o weithio mewn un o ganghennau’r Principality.

Yn ogystal â bwrw iddi i ymestyn ein sesiynau parhaus, bydd Xplore! yn cynnal clybiau codio ym mis Awst a Medi 2023 ar gyfer plant 9-12 oed a’u teuluoedd. Bydd y sesiynau hyn yn gyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan ddysgu am agweddau sylfaenol codio, gan gynnwys symudiad, synhwyro, chwarae gemau a dylunio wrth ddefnyddio meddalwedd Scratch.

Dywedodd Katie Williams, y Swyddog Datblygu Busnes yn Xplore!: “Mae ein partneriaeth gyda’r Principality wedi parhau i esblygu dros y blynyddoedd. Mae’n anhygoel bod modd inni fanteisio ar y cyllid newydd hwn a bydd yn fodd inni gynnig ein gweithdai Ysgol Gynilo gyda mwy fyth o ddisgyblion y rhanbarth. Rydym ar bigau’r drain i roi Clwb Codio i bobl ifanc ar brawf yn ystod gwyliau’r haf a sesiynau clwb ar ôl ysgol fyddai’n gyfle i blant a’u teuluoedd fynd ati i ddysgu ar y cyd.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y nawdd tuag at ein Gŵyl Wyddoniaeth, Darganfod//Discover, a oedd yn llwyddiant ysgubol. Mae’n fraint gennym ni gyhoeddi hefyd y byddwn yn cydweithio gyda Hope House Tŷ Gobaith unwaith eto i gynnal gweithgareddau gwyddoniaeth i’w plant.”

Dywedodd Tony Smith, Prif Swyddog Llywodraethu Cymdeithas Adeiladu’r Principality: “Mae’n bleser gennym ni barhau i ddatblygu ein perthynas gydag Xplore! Mae eu gwaith yn y gymuned yn dyst i’w tîm. Rydym yn angerddol dros ddysgu sgiliau trin arian o oedran cynnar, ac mae’r sesiynau hyn yn cynnig heriau rhyngweithiol sy’n gwella’r profiad dysgu.

“Rydym yn falch o ddatgan hefyd y byddai Xplore! yn dychwelyd i Hope House Tŷ Gobaith, un o’n partneriaid elusennol, yn ystod yr haf er mwyn cynnig gweithgareddau hwyl i’r plant yn eu gofal. Fe wyddom fod y plant yn eu mwynhau’n fawr ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at glywed am y sesiynau hyn. ”

I wybod mwy am y sesiynau’n ystod yr haf, ewch i… https://www.xplorescience.co.uk/events/principality-coding-club/

Skip to content