Mae pob parti pen-blwydd sydd wedi’u cadarnhau gyda Xplore! Natur (enw masnachu Gwyddoniaeth Gogledd Cymru Cyf) yn rhwym i’r telerau ac amodau canlynol. Caiff archebion eu cadarnhau unwaith y byddwch yn derbyn cadarnhad archeb dros e-bost ac fe gân nhw eu hystyried wedi’u derbyn gan y trefnydd oni bai ein bod yn clywed gennych chi ymhen 1 diwrnod gwaith. Caiff partïon Xplore! Natur eu cynnal yn ein hysgol goedwig ar Gampws Llaneurgain Prifysgol Wrecsam, Llaneurgain, Sir y Fflint CH7 6AA.
Prisiau
Mae ein partïon pen-blwydd yn £200 am hyd at 10 o unigolion a £18 am bob unigolyn ychwanegol (mwyafswm o 20 o unigolion).
Rydym yn gofyn am daliad o £200 pan fyddwch yn trefnu’ch parti gyda ni. Gallwch ei dalu drwy anfoneb (taliad BACS) neu ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd/debyd. Cofiwch roi gwybod inni pa ddull talu rydych chi’n ei ffafrio pan fyddwch yn trefnu. Byddwn yn codi am unrhyw unigolion ychwanegol un wythnos cyn y parti gan ddefnyddio’r dulliau talu uchod. Byddwn yn prosesu ad-daliadau yn unol â’r polisi canslo isod.
Dydy staff Xplore! Natur ddim yn gyfrifol am ymddygiad neu am oruchwylio grwpiau o unrhyw faint. Gofalwch bod digon o oedolion yn bresennol i oruchwylio’ch parti. Dylid sicrhau bod o leiaf un oedolyn a dydy hyn ddim yn cynnwys staff Xplore! Natur. Ni fydd staff Xplore! Natur yn parhau gyda gweithgaredd lle nad oes goruchwyliaeth ddigonol, neu pan nad oes modd rheoli ymddygiad y rheiny sy’n bresennol.
Dylai bod plant 13 oed ac ieuengach wedi’u goruchwylio gan oedolyn sy’n hŷn na 18 oed. Mae hawl gennym ddod â phartïon i ben yn gynnar pan fo ymddygiad unrhyw blentyn (plant) yn cael ei ystyried yn annerbyniol. Bydd staff Xplore! Natur yn cynnig gweithgareddau rhyngweithiol; ni allwn fod yn gyfrifol am oruchwylio plant o dan unrhyw amgylchiadau.
Tywydd
Byddwn yn ymdrechu i weithredu drwy gydol y flwyddyn ac yn unol ag ethos yr ysgol goedwig. Bydd y sesiynau’n parhau ym mhob tywydd oni bai mewn tywydd garw dros ben. Mae ein lleoliad ychydig dros 180medr o uchder, ger arfordir gogledd Cymru, a gan hynny rydym yn cael gwyntoedd cryf, a glaw ac eira sylweddol ar adegau. O ganlyniad, mae’r tywydd hwn yn agwedd sylweddol o ran sut rydym yn gweithredu. Os nad oes modd inni barhau gyda’r sesiynau yn sgil tywydd gwael, byddwn yn ymdrechu hyd eithaf ein gallu i ail-drefnu ar gyfer dyddiad ac amser arall lle bydd yr amodau’n fwy sefydlog.
Dillad ac esgidiau addas
Yn ddelfrydol, fe ddylai pawb sy’n mynychu ddod â’r canlynol gyda nhw:
- Esgidiau chwaraeon, bŵts neu esgidiau glaw (dim sandalau / esgidiau cynfas / eich esgidiau gorau)
- Sanau trwchus neu ddau bâr o sanau
- Trowsus llaes a llewys hir (i amddiffyn y breichiau a’r coesau rhag pryfed sy’n pigo, planhigion a goleuni’r haul)
- Siaced sy’n dal dŵr neu ‘poncho’ (a throwsus sy’n dal glaw os oes gennych chi)
- Het ac eli haul (os ydy’r tywydd yn boeth dros ben)
- Hetiau a menyg (ar ddiwrnodau oer neu wlyb)
- Siwmper gyda chwfl neu siaced cnu (rydym yn cael diwrnodau oer, gwlyb a gwyntog hyd yn oed yn yr haf)
- Bagiau plastig ar gyfer dillad ac esgidiau budr
Dŵr a thamaid bach i’w fwyta (rydym yn darparu siocled poeth/diodydd a thamaid bach, ond mae croeso ichi ddod â phethau eich hunain)
Bwyd a diod
Rydym yn darparu diodydd oer a phoeth mewn partïon Xplore! Natur i bawb sy’n bresennol, yn ogystal â thamaid bach i’w fwynhau o amgylch y tân gwersyll. Mae croeso ichi ddod â bwyd ychwanegol gyda chi. Sylwch ni chaniateir alcohol ar y safle a gofynnwn yn garedig ichi ‘fepio’ neu ysmygu yn y maes parcio, a dim ar safle ein hysgol goedwig. Cyn eich parti, cofiwch gofnodi unrhyw anoddefiadau neu alergeddau ar eich ffurflen feddygol (a ddarperir gyda’ch cadarnhad archeb).