Skip to content

Ydych chi’n barod i gael blas ar antur arallfydol? Byddwch yn barod i gymryd hynt gosmig wrth i daith “Gofod i Bawb” lanio yn Sgwâr y Frenhines, Wrecsam o Fedi’r 14eg tan y 18fed. Nid taith gyffredin mo hon; mae’n brofiad gwefreiddiol sy’n sicr o ennyn diddordeb ac addysgu’r genhedlaeth nesaf am ryfeddodau’r gofod.

Bydd Xplore! yn ymuno yn yr hwyl gan gynnig gweithgareddau cyffrous sydd wedi’u datblygu ar gyfer y Prosiect Ein Byd o’r Gofod. Fe gewch chi’ch syfrdanu wrth ichi ymdrochi yn nirgelion y bydysawd.

Yn ogystal â syllu ar y sêr yn ystod y daith “Gofod i Bawb”, bydd cyfle ichi ddysgu mwy am y posibiliadau anhygoel sydd ynghlwm â fforio’r gofod. Byddwn yn tynnu sylw at ddiwydiant gofod ffyniannus y DU ynghyd â’r cyfleoedd gyrfa amrywiol gallwch fanteisio arnyn nhw drwy’r diwydiant. Nod y fenter hon ydy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i estyn am y sêr gan ddangos sut mae’r gofod yn gwella bywyd ar y Ddaear.

Roedd Matt Archer, Cyfarwyddwr Lansio yn Asiantaeth Ofod y Du llawn cyffro: “Bu’r Daith Gofod i Bawb yn llwyddiant ysgubol, gyda theuluoedd, ysgolion a phobl ifanc yn manteisio ar y cyfle i fwrw golwg ar roced ynghyd â dysgu am rôl y gofod yn ein bywyd o ddydd i ddydd.” Mae sector gofod y DU yn flaenllaw ac mae’n croesawu unigolion o bob mathau o gefndiroedd ac sy’n meddu ar amryw sgiliau. Nod y daith hon ydy ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o dalent gofod brodorol.

At hyn, gallwch fynd ag atgof bythgofiadwy o’r daith gosmig hon adref gyda chi! Cymrwch lun wrth y roced, tagiwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol ac fe gewch chi fanteisio ar ostyngiad o 20% oddi ar pris llawn tocyn mynediad i Xplore! y diwrnod hwnnw. Mae’n gyfle penigamp ichi sicrhau bod eich antur gofod yn hyd yn oed yn fwy fforddiadwy! Hefyd gallwch fanteisio ar ostyngiad o 20% oddi ar ein nwyddau gofod yn y siop.

Felly, cofiwch wneud nodyn yn eich dyddiadur o’r digwyddiad serol hwn o Fedi’r 14eg tan y 18fed. Mae Gofod i Bawb yn daith fythgofiadwy i’r hyn na ŵyr neb amdano. Mae rhywbeth at ddant bawb ar y daith hon, pe baech chi’n blentyn, yn deulu, neu’n athro. Cychwynnwch eich taith i’r cosmos gan weld o lygaid y ffynnon sut mae technolegau’r gofod yn cyfoethogi ein bywydau yma ar y Ddaear.

Skip to content