Skip to content

Bu’r bartneriaeth, a ffurfiwyd yn 2019, yn gyfle i’r Principality ac Xplore! gynnal gweithdy hwyl a rhyngweithiol i blant oedran cynradd er mwyn hybu eu hyder wrth drin arian. Erbyn hyn mae 2000 o blant wedi mwynhau’r sesiwn, a gyda’r nawdd diweddar mae cyfle i 750 o blant ychwanegol fwynhau’r sesiwn rhwng Medi a Rhagfyr 2022.

Mae Xplore! wedi mynd rhagddi i greu llu o weithgareddau megis gweithgaredd chwarae rôl sy’n gyfle i’r bobl ifanc ‘weithio’ fel derbynyddion arian drwy gymryd yr arian, cyflwyno’r symiau ac yna ei roi mewn coffor. Mae cyfle hefyd i’r bobl ifanc weithredu fel cwsmeriaid drwy gyfrifo cyfanswm eu harian, ysgrifennu’r symiau ar eu slipiau talu mewn a gofyn i’r derbynyddion arian am ychwanegu eu harian i’w cyfrif. Bu’r chwarae rôl yn un o rannau mwyaf poblogaidd y gweithgaredd.

Ymysg y gweithgareddau eraill oedd gêm bingo darnau arian syml sy’n annog y plant i adnabod y darn arian cywir, yn ogystal â gweithgaredd sy’n dysgu plant sut i ennill arian poced ychwanegol drwy dorchi eu llewys a chynnig help llaw o amgylch y tŷ.

Dywedodd James Harper, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, Cymdeithas Dai y Principality, “Mae’n bleser gennym ni barhau i gefnogi’r tîm Xplore yn Wrecsam. Mae’n wych gallu gweithio ar brosiect mor hwyl i blant sy’n annog gwaith tîm ac sy’n cynnig sgiliau mor bwysig iddyn nhw allu datblygu.”

Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes yn Xplore! “Cafodd y gweithdy ei datblygu’n wreiddiol i ddysgwyr blynyddoedd 1 a 2, ond yn dilyn y pandemig rydym wedi cynnig cyfle i’r athrawon ddewis pa flynyddoedd y byddwn ni’n cynnig y gweithdy iddyn nhw. Gyda phlant yn treulio llai a llai o amser mewn siopau yn trin arian parod, rydym wedi sylwi nad ydy plant mor gyfarwydd gyda darnau arian ac arian papur o gymharu â phlant a wnaeth gymryd rhan yn yr un gweithgareddau cyn y pandemig.

“Mae gallu cefnogi dysgu’r plant drwy’r gweithdy Ysgol Gynilo yn wych ac mae ond modd inni wneud hynny gyda chefnogaeth a nawdd hael Cymdeithas Dai y Principality”

Fel rhan o’r bartneriaeth, mae Xplore! yn cynnal sawl diwrnod i aelodau ym mis Tachwedd lle bydd cyfle i gwsmeriaid Cymdeithas Dai y Principality ddod i Xplore! am bris gostyngol a chyfle i’w plant gymryd rhan yng ngweithgareddau’r Ysgol Gynilo. Cysylltwch gyda info@xplorescience.co.uk i wybod mwy.

Skip to content