Ydych chi’n awyddus i roi cynnig ar rywbeth gwahanol yn ystod y penwythnos, gwyliau ysgol neu ddigwyddiad penodol, mae gan Xplore! rywbeth at ddant pawb, braf neu beidio.
Wedi’i lleoli yng nghanol Wrecsam mae ein canolfan ymwelwyr yn darparu lle gwych i’r teulu cyfan ei fwynhau. Gyda mwy nag 85 o arddangosion i'w mwynhau a sioe wyddoniaeth fyw ryngweithiol Xplore! mewn gwirionedd yw'r man lle mae gwyddoniaeth yn byw.