Skip to content

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn falch dros ben o gyhoeddi eu bod nhw wedi derbyn y wobr Cynnig Cymraeg. Datblygwyd y cynllun Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd yr Iaith yn 2020 er mwyn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn ymwybodol o’r gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg y gallan nhw fanteisio arnyn nhw. At hyn, mae’r wobr yn gydnabyddiaeth swyddogol gan y Comisiynydd i fudiadau maen nhw wedi cydweithio gyda nhw i fwrw iddi i gynllunio cynlluniau datblygu’r Gymraeg uchelgeisiol.

Mae Xplore! ar ben eu digon o fod ymysg y 100 o fusnesau ac elusennau yn unig, ynghyd â’r unig ganolfan darganfod gwyddoniaeth yng Nghymru, i dderbyn cydnabyddiaeth ers ei sefydlu ym mis Mehefin 2020. Fel rhan o’u hymrwymiad, mae Xplore! yn sicrhau bod eu gwasanaeth yn hollgynhwysol drwy gynnig gweithgareddau ymgysylltu gyda gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal ag annog y defnydd o’r Gymraeg ledled eu canolfan darganfod, gan ddefnyddio’r Gymraeg yn eu deunyddiau hyrwyddo a chydweithio gyda grwpiau cymunedol Cymraeg eu hiaith i feithrin ymdeimlad o berthyn yn y gymuned.

Dywedodd Emyr Williams, hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg “Mae defnyddio’r Gymraeg yn bwysig i Xplore! cydnabyddwn ei fod yn rhan bwysig o ddiwylliant a hunaniaeth Wrecsam fel dinas newydd a chymuned hanesyddol Gymraeg.

Mae’n bwysig cyfathrebu yn iaith newisiadwy pobol, a sicrhau ein bod yn cynrychioli pob rhan o’n gymuned leol yn deg. Drwy weithio ar ein Cynnig Cymraeg, mae’r iaith yn dod yn rhan o’n diwylliant gweithio mewnol.”

Dywedodd Scot Owen, Rheolwr y Ganolfan “Mae Xplore! wedi datblygu’n sylweddol yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Roedd symud ein canolfan i ganol y ddinas yn 2020 yn fodd inni ffynnu fel mudiad sy’n ymrwymo i’r Gymraeg a’r gymuned lewyrchus yng Ngogledd Cymru.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn benllanw gwaith diflino’r mudiad cyfan dros yr 20 mlynedd diwethaf, ac yn nodi cychwyn dyfodol disglair o gydweithio gydag ein cymuned Gymraeg.”

Wrth longyfarch Xplore, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones,

“Roeddwn i’n ddigon ffodus llynedd i gael y cyfle i ymweld ag Xplore a gweld y gwaith rhagorol maen nhw’n ei wneud gydag ysgolion yn ogystal â’r gymuned leol. Rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ymdrechion maent yn eu gwneud er mwyn cynnig mwy o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n wych eu gweld yn derbyn cydnabyddiaeth y Cynnig Cymraeg.

“Nod y Cynnig Cymraeg yw rhoi cyfle i sefydliadau godi ymwybyddiaeth o’u gwasanaethau Cymraeg a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Mae angen i’r Gymraeg gael ei gweld a’i chlywed ym mhob man, ac mae angen i ni ei defnyddio.”

At hynny, mae Xplore! yn mynd rhagddi i gefnogi aelodau o’u staff i hybu eu sgiliau Cymraeg drwy gyrsiau sydd wedi’u hwyluso gan Brifysgol Wrecsam. Mae grŵp datblygu’r Gymraeg pwrpasol wedi’i sefydlu i arwain y gwaith o hyrwyddo dwyieithrwydd a chlodfori’r Gymraeg a diwylliant Cymru yn y mudiad.

Skip to content