Skip to content

Bydd Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyflwyno Cemeg Creadigol, yn 17 Stryd Henblas, Wrecsam ar ddydd Gwener, Hydref y 27ain hyd at Ragfyr y 10fed, gyda llu o arbrofion arbennig i bobl o bob oedran.

Byddwch yn barod i ddysgu am ryfeddodau anhygoel cemeg, wrth i Xplore! gyflwyno’u sioe wyddoniaeth sy’n torri tir newydd, “Cemeg Creadigol”. Bydd y sioe llawn cynnwrf hon yn addysgu ac yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd o bob oedran, gan gynnig cyfuniad unigryw o adloniant ac addysg. Bydd “Cemeg Creadigol” yn brofiad heb ei ail, gan arddangos rhyfeddodau gwyddoniaeth cynaliadwy a sut gallai cynulleidfaoedd ymdrochi mewn rhyfeddodau cemeg gan ddefnyddio eitemau sydd ganddyn nhw eisoes adref. Gan fanteisio ar arbenigwyr gwyddoniaeth y ganolfan, arddangosion rhyngweithiol ac ystod eang o ddeunyddiau gwyddonol unigryw, bydd y sioe yn bwrw iddi i amlygu cysyniadau cemeg cymhleth ac arddangos rhyfeddodau cemeg mewn amgylchedd atyniadol llawn hwyl.

Gallai cynulleidfaoedd edrych ymlaen at y canlynol:

  • Arddangosfeydd Syfrdanol: Cyfle i fwrw golwg ar arbrofion ac arddangosfeydd gwefreiddiol a fydd yn eich gadael yn gegrwth wrth ddysgu am ryfeddodau’r byd naturiol. Byddwch yn dyst i adweithiau cemegol sy’n ymddangos fel hud a lledrith, gan ddefnyddio deunyddiau cynaliadwy sydd gennych chi yn eich cwpwrdd yn y gegin eisoes.
  • Hwyl i’r Teulu i gyd: Mae “Cemeg Creadigol” yn ddigwyddiad sy’n addas i bawb o’r teulu, gyda gweithgareddau i ymwelwyr o bob oedran. Mae’n gyfle i deuluoedd ddod ynghyd gan fwynhau’r teimlad o gyffro sydd ynghlwm â gwyddoniaeth a dysgu.

Mae Xplore! yn ymrwymo i sicrhau fod gwyddoniaeth yn addas ac yn atyniadol i bawb. Drwy gynnal “Cemeg Creadigol”, ein nod ydy meithrin angerdd tuag at ddysgu ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr, arloeswyr a meddylwyr.

Bydd y digwyddiad yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, ar Stryd Henblas, Wrecsam o ddydd Gwener, Hydref y 7fed. Gallwch brynu tocynnau ar-lein ac o’n swyddfa docynnau. I wybod mwy, ewch i’n gwefan https://www.xplorescience.co.uk/ neu dilynwch ni ar Instagram, Twitter, Facebook a Tiktok i weld y diweddaraf a mwynhau cipolwg y tu ôl i’r llenni.

Contact Us

"*" indicates required fields

Contact Us

"*" indicates required fields

Skip to content