Skip to content

Heddiw bydd elusen addysg Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyhoeddi lansiad Natur Xplore! – eu hwb gwyddoniaeth amgylcheddol newydd sbon danlli.

Bydd y coetir sydd ar gampws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Wrecsam (WGU) yn Sir y Fflint yn gartref i sesiynau ysgol goedwig cyntaf un Xplore! yn ogystal â gweithgareddau gwyddoniaeth amgylcheddol arbenigol.

Bydd Natur Xplore! yn dod a chwa o awyr iach i ardal o goetir hynafol drwy groesawu ysgolion, grwpiau cymunedol a phartïon pen-blwydd. Yn ystod y canrifoedd a fu, bu hanes helaeth ynghlwm â champws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Wrecsam – o felin blawd o’r unfed ganrif ar bymtheg i wersyll carcharorion rhyfel yr Ail Ryfel Byd yn ogystal â ffordd Rufeinig hynafol hyd at yr enwog Glawdd Wat.

Ynghyd â chynnig cyfleoedd i ymwelwyr o bob oedran i ymwneud gyda’r byd o’n cwmpas, mae Xplore! yn falch y byddan nhw’n mynd ati i amddiffyn a rheoli’r goedwig 95 erw er lles cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Scot Owen, Rheolwr Canolfan Xplore! “Mae’n wych gallu cynnig mwy fyth o brofiadau gwyddoniaeth nac erioed o’r blaen. Bydd y safle newydd yn Llaneurgain yn safle gwyllt penodol cyntaf o’r fath fydd yn agored i bawb ei archwilio.

“Bu inni gynnal cannoedd o bartïon pen-blwydd yn ein Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn Wrecsam yn ystod yr 20 mlynedd y bu’n masnachu. Fodd bynnag, bydd ein cyfleuster newydd yn fan delfrydol ar gyfer cynnal partïon pen-blwydd arbennig o amgylch tanllwyth o dân.

“Mae pwysigrwydd gwyddoniaeth amgylcheddol yn fwy amlwg nac erioed ac mae’n bleser gan Xplore! gynnig gweithgareddau a fyddai’n meithrin angerdd tuag at ecoleg, bioleg, sŵoleg a llawer mwy gyda Natur Xplore!.”

Bydd modd i Natur Xplore! fwrw golwg ar, archwilio a meithrin dychymyg y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr amgylcheddol, ynghyd ag ennyn diddordeb y genhedlaeth hon mewn gwyddoniaeth amgylcheddol, yr awyr agored a theimlo’n gartrefol ymysg natur.

Ychwanegodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam ac aelod bwrdd ymddiriedolwyr Gwyddoniaeth Gogledd Cymru Cyfyngedig, “Mae lansio Natur Xplore! – hwb gwyddoniaeth amgylcheddol newydd yr elusen – yn arwydd o gyfnod cyffrous dros ben, yn enwedig wrth i Xplore! ddathlu eu 20 mlwyddiant eleni.

“Bydd Natur Xplore! yn cynnig cyfle i bobl o bob oedran ymwneud gyda natur, yn ogystal â mwynhau ystod eang o weithgareddau gwyddoniaeth amgylcheddol anhygoel yma yng Ngogledd Cymru odidog.”

Mae Ysgolion Coedwig ar waith ers tro ond bu i’r cysyniad ddwyn ffrwyth yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf heb os wrth i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol atgyfnerthu’r cysyniad drwy ddatgan ‘Cymru iachach’ fel un o’r saith nod llesiant.

Mae’r Gymdeithas Ysgol Goedwig yn disgrifio ysgolion coedwig fel proses dysgu ysbrydoledig lle mae’r plentyn yn ganolog ac sy’n ategu chwarae, archwilio a chymryd risgiau gyda chefnogaeth. Hyn i gyd gan hybu hyder a hunan-barch drwy brofiadau ymarferol, mewn man naturiol, o dan arweiniad y dysgwyr.

At hyn, gyda bod presgripsiynu cymdeithasol yn dod yn fwyfwy cyffredin erbyn hyn, mae angen bwrw iddi i gynnig ymyriadau iechyd meddwl amgen ac ataliol sydd â’r nod o gefnogi unigolion i gymryd mwy o reolaeth dros eu hiechyd eu hunain. Caiff y triniaethau eu cynnig ar ffurf gweithgareddau unigol yn aml ond mae rhai mudiadau wedi manteisio ar y buddion ynghlwm â gweithlu sy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar drwy feithrin cysylltiad agosach gyda natur. Mae Xplore! yn awyddus i glywed gan weithleoedd lle byddai eu timau’n mwynhau diwrnod llesiant yn y goedwig.

Yn ystod y misoedd nesaf, fe fydd Xplore! a’u cwmni rhiant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cyhoeddi mwy o fanylion am y bartneriaeth gyffrous hon ar gyfer Gogledd Cymru a thu hwnt.

Os hoffech chi wybod mwy neu os hoffech chi gymryd rhan mewn gweithgareddau ar y safle, cysylltwch gyda ni drwy e-bostio: nature@xplorescience.co.uk neu ffonio: 01978 293400.

Skip to content