Skip to content

Xplore! Yn Sicrhau Buddsoddiad Sylweddol i Gam Cyntaf ‘Xplore! 2.0’ – sy’n Cynnwys Planetariwm Newydd 

 

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn falch o gyhoeddi ei bod wedi sicrhau cyllid sylweddol i lansio Cam Cyntaf ei phrosiect ailddatblygu cyffrous, Xplore! 2.0. Bydd y cam cyntaf yn gweld profiad planetariwm trochol, newydd sbon yng nghalon y ganolfan.  

Fel elusen addysgol, mae Xplore! wedi ymroddi i ennyn diddordeb pobl a’u hysbrydoli drwy STEAM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celfyddydau, a Mathemateg). Ar agor i ysgolion a’r cyhoedd, mae’r ganolfan ar hyn o bryd yn cynnwys 85 o greiriau rhyngweithiol, sioe wyddoniaeth fyw, a dros 40 o weithdai addysgol wedi eu teilwra ar gyfer ysgolion.  

Diolch i gymorth gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, mae Cam Cyntaf y gwaith ailddatblygu wedi ei gymeradwyo – gan ddod â phlanetariwm 30 sedd i’r lleoliad. Bydd y nodwedd newydd hon ar gael i grwpiau ysgolion, sefydliadau cymunedol, a theuluoedd, gan gynnig profiad diwrnod allan sy’n addysgol ac yn fythgofiadwy.  

Bydd y planetariwm yn darparu amgylchedd dysgu hynod o ddifyr i bawb o bob oedran, gan ysgogi chwilfrydedd a dychymyg. Tu hwnt i’w effaith addysgol, bydd hefyd yn hybu elfen ddiwylliannol canol dinas Wrecsam, gan gyfrannu at yr economi ymwelwyr ac yn cryfhau asedau diwylliannol a chymunedol y rhanbarth 

Mae tîm Xplore! wedi gweithio’n ddygn dros y 18 mis diwethaf i wireddu gweledigaeth Xplore! 2.0 Fel rhan o’r broses hon, aeth y tîm ati’n bwrpasol i gynnwys y cyhoedd a’r gymuned leol, gan eu gwahodd i lywio dyfodol y ganolfan. Mewn arolwg diweddar, fe fynegodd 94% o ymatebwyr awydd cryf i sefydlu planetariwm. Cafodd ei ddisgrifio’n eang fel profiad “waw” – un byddai’n trawsnewid profiad ymwelydd.  

Rhannodd un rhiant: 
“Gwych! Rydym yn edrych ymlaen – yn arbennig at y planetariwm! Rydym wedi chwilio am rywbeth tebyg i hyn ar gyfer ein mab ers blynyddoedd, a hynny heb lwyddiant.” 

Ychwanegodd Scot Owen, Rheolwr y Ganolfan Xplore!: 
“Teimlad balch iawn yw gweld cam cyntaf Xplore! 2.0 yn dod yn fyw, yn enwedig gan wybod ei fod wedi ei lywio gan ein hymwelwyr a’n cymuned. Roedd y planetariwm yn ffefryn amlwg yn ein hymgynghoriad cyhoeddus, ac rydym yn teimlo’n gyffrous gallu cynnig rhywbeth a fydd yn sbarduno rhyfeddod, chwilfrydedd, a thanio’r dychymyg am flynyddoedd i ddod. Dim ond dechrau’r bennod newydd fentrus i Xplore! yw hyn” 

Mae disgwyl i Gamau Dyfodol ailddatblygiad Xplore! 2.0 drawsnewid y ganolfan ymhellach, yn ddibynnol ar sicrhau cyllid ychwanegol. Mae’r cynlluniau cyffrous hyn yn cynnwys cyflwyno parth rhithiau, ardal chwarae dŵr ddeinamig, ystafell gynadledda pwrpasol, ardal neilltuol i blant dan saith oed, ac ardaloedd arloesi i annog creadigrwydd a dysgu ymarferol.  

“Rydym wrth ein bodd bod Xplore! wedi sicrhau cyllid ar gyfer cam cyntaf eu prosiect ailddatblygu. Bydd datblygu planedariwm ymdrochol newydd yn Wrecsam yn helpu i ennyn chwilfrydedd mewn pobl o bob oed – yn lleol ac ar draws y genedl. Rydym yn hyderus y bydd y datblygiad cyffrous hwn hefyd yn helpu i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i archwilio gyrfaoedd yn y sector gofod yng Nghymru, gan gefnogi ei dwf parhaus a’i lwyddiant hirdymor.” Dywedodd Dr Rosie Cane, Rheolwr Datblygu Clystyrau yn Gofod Cymru. 

Mae Xplore! wedi cyhoeddi y gallwch weld eu planetariwm newydd yn Chwefror 2026, yn barod ar gyfer yr wythnos Seryddiaeth. Bydd yr wythnos lansio yn targedu pawb drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys y cyhoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion a grwpiau mewn lifrai. Yn y cyfamser, mae planetariwm symudol y ganolfan ar gael i’w logi yn y ganolfan neu yn eich lleoliad chi.  

Mae Xplore! 2.0 yn cynrychioli dyfodol addysg STEAM a thwristiaeth yng Nghymru – cam beiddgar ymlaen i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o feddyliau chwilfrydig wrth ddenu ymwelwyr o bob rhan o’r wlad a thu hwnt. Wrth i’r daith newydd hon ddatblygu, anogir y cyhoedd i ddilyn Xplore! ar y cyfryngau cymdeithasol i gael diweddariadau, cynnwys y tu ôl i’r llenni, a chyhoeddiadau.  

Skip to content