Skip to content

Mae atyniad i dwristiaid yn Wrecsam yn estyn gwahoddiad i drigolion Gogledd Cymru leisio’u barn ynghylch llywio’u gweithgarwch allgymorth yn y dyfodol.

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn galw ar bobl leol i gyflwyno’u syniadau am arddangosion sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd. Hyn i gyd gyda’r nod o hybu ymdeimlad o gydweithio cymunedol dyfnach yn y ddinas.

Mae’r elusen, sy’n mynd ati i drefnu gweithdai a sioeau sy’n ymwneud â gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, a mathemateg (STEM), yn awyddus i glywed syniadau ymwelwyr am beth hoffan nhw ei weld nesaf ar eu safle ar Stryd Henblas.

Bydd y ganolfan yn bwrw iddi, gyda chyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, i lansio profiadau o’r newydd gan ychwanegu dros 80 o weithgareddau rhyngweithiol yn eu gofod arddangos. At hyn byddan nhw’n cynnal tri grŵp ffocws galw heibio er mwyn i bobl gyflwyno, trafod neu hyd yn oed tynnu llun o’u hawgrymiadau.

Yn dilyn y cyhoeddiad ar gyfer y datblygiad ‘Parks and Wrex’ y tu allan i safle’r hen farchredfa, lle bu i Xplore! gynnal digwyddiadau’n flaenorol, nod y mudiad ydy dysgu beth fyddai’n ennyn diddordeb pobl leol ymhellach ar y stryd fawr.

Dywedodd y cydlynydd codi arian ac allgymorth cymunedol, Clair Griffiths, sy’n gyfrifol am arwain y sesiynau: “Mae pawb yn frwdfrydig dros ben i sicrhau bod Wrecsam yn ferw o brysurdeb, ac rydym bob amser yn awyddus i rannu’r brwdfrydedd gyda’r gymuned ehangach.

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at groesawu trigolion yma a rhoi cyfle iddyn nhw leisio’u barn am ddyfodol y ganolfan, yn enwedig gan ein bod ni’n ystyried yr amgylchedd yn rhan flaenllaw.”

Yn flaenorol bu i’r mudiad ddangos eu hymroddiad tuag at lythrennedd hinsawdd drwy greu gweithdai datgarboneiddio ar y cyd â Chyngor Wrecsam, gan rymuso dros 600 o ddisgyblion drwy gydol 2023.

Ychwanegodd Clair: “Mae’n hollbwysig bwrw iddi gyda’r mentrau hyn drwy wrando’n astud ar farn ein hymwelwyr, gan fod pawb yn dehongli cynaliadwyedd yn wahanol.

“Er enghraifft, gallai’r arddangosiad newydd fod yn gêm wedi’i greu o adnoddau neu ddeunyddiau, y mae modd eu hailgylchu’n gyfan gwbl, gan fusnesau lleol.

“Os ydych chi’n llawn syniadau, neu’n awyddus i drafod sut gallwch chi fod ynghlwm â’r gwaith, mae croeso ichi alw heibio am sgwrs.”

Cymerodd y sesiwn cyntaf lef ar 22ain o Dachwedd a bydd y gweddill yn rhedeg rhwng 10yb-12yp ar yr 29ain ac Rhagfyr y 6ed, ac mae croeso i bobl o bob oedran ddod iddyn nhw.

Eleni bu i’r ganolfan, Techniquest Glyndŵr gynt, ddathlu eu 20 mlwyddiant a bu iddyn nhw lwyddo i gipio gwobr Dysgu Busnes yng Ngwobrau Busnes Wrecsam 2023 am eu gwaith yn ennyn diddordeb y genhedlaeth nesaf mewn STEM.

Contact Us

"*" indicates required fields

Contact Us

"*" indicates required fields

Skip to content