Skip to content

Mae’n bleser gan Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! gyhoeddi y buon nhw’n llwyddiannus gyda’u cais fel rhan o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa drawsnewidiol hon yn fodd i Xplore! ddatblygu tua’r dyfodol a sicrhau eu bod yn fwy cynaliadwy. Bydd Xplore! yn bwrw iddi i gyflawni gwaith ailddatblygu ar eu hadeilad yng nghanol y ddinas, gan ychwanegu paneli solar a gwneud gwelliannau i’r to. Hyn i gyd gyda’r nod o wella’u heffeithlonrwydd ynni.

Mae’n adeg gyffrous i fod yn Wrecsam. Bydd y gronfa hefyd yn gyfle i Xplore! gyflawni rhagor o waith yn ein cymuned. Yn ystod y 18 mis nesaf maen nhw’n bwriadu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol arbennig a newydd sbon. Caiff nod hirdymor Xplore! fel canolfan ar gyfer gwyddoniaeth a thwristiaeth yn Wrecsam ei hybu gan y gronfa gyffrous hon.

Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhan o agenda Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU. Bydd y gronfa yn cynnig £2.6 biliwn o gyllid newydd i’w fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025, gyda phob ardal yn y DU yn derbyn dyraniad drwy fformiwla ariannu yn hytrach na chystadleuaeth. Nod y gronfa ydy cynnig cyfle i fudiadau adnabod ac ategu eu cryfderau a’u hanghenion eu hunain ar lefel lleol. At hyn bydd y gronfa yn canolbwyntio ar falchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd. Mae’n fraint gan Xplore! fod ymysg sawl cais llwyddiannus yn Sir Wrecsam.

Dywedodd Scot Owen, Rheolwr y Ganolfan, “Mae Xplore! ar waith ers 20 mlynedd erbyn hyn ac rydym wedi bod yn ffodus o dderbyn cyllid sydd wedi sicrhau modd inni dyfu a datblygu. Bydd y gronfa ffyniant gyffredin eto yn gyfle inni fynd rhagddi gydag ein hamcan ar gyfer yr adeilad a Wrecsam fel Dinas.

Hoffwn ddiolch i dîm Xplore! am eu gwaith diflino a Phrifysgol Wrecsam am eu gwaith o ddydd i ddydd er mwyn sicrhau bod Xplore! yn adnodd cymunedol hynod werthfawr.

Rydym wedi achub ar y cyfle i ddefnyddio’r cyllid hwn i sicrhau bod Xplore! yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”

Bydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn fodd o drawsnewid Wrecsam ac mae Xplore! yn falch iawn o fod ynghlwm â’r ymgyrch.

Dywedodd Jasbir Dhesi, OBE, Cadeirydd Bwrdd Gwyddoniaeth Gogledd Cymru, “Mae’r gronfa Ffyniant Gyffredin yn atgynhyrchiol dros ben i Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! a Wrecsam fel Dinas.

Bydd yr hwb ariannol hwn yn fodd i Xplore! fwrw iddi gyda’u nod o sicrhau fod pob person ifanc yn ymwneud gyda gwyddoniaeth, yn derbyn cyfleoedd i ffynnu ac yn cael eu hannog i gyflawni addysg bellach.

Mae Gwyddoniaeth Gogledd Cymru yn elusen addysg fach ac rydym yn dibynnu ar gyllid fel hwn i sicrhau ein bod yn parhau i gynnig gwasanaeth i genedlaethau’r dyfodol. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn sicrhau dyfodol i Xplore! ac rydw i’n edrych ymlaen yn arw at weld beth allai Xplore! ei gyflawni gyda’r gronfa.”

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Xplore! yn rhyddhau rhagor o wybodaeth am eu cynlluniau a’r cyfleodd cyffrous i ymgysylltu yn Wrecsam yn y dyfodol. Bydd y digwyddiad cyntaf, sef Diwrnod Hwyl i’r Teulu, ar Hydref y 7fed yn Safle’r Hen Farchredfa ac mae’n rhad ac am ddim. Bydd llu o weithgareddau hwyl i’r teulu o 10yb tan 4yp. Dewch draw, does dim rhaid ichi gadw lle.

Skip to content