Skip to content

Cofiwch fachu ar y cyfle ar drothwy’r Flwyddyn Newydd i ymweld ag arddangosfa deithiol Sefydliad y Peirianwyr Sifil (ICE), Time is Running Out / Amser yn Prysur Ddiflannu, yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, Wrecsam. Mae’r arddangosfa yn brofiad addysgol gwerth chweil i deuluoedd, pobl ifanc a’r rheiny sy’n awyddus i ddysgu mwy am beirianneg. Lansiwyd yr arddangosfa’n ddiweddar ac fe fyddai ar waith tan Fawrth yr 8fed 2024, gan ymdrin â chwe chwestiwn. Cwestiynau sydd â’r nod o ennyn diddordeb meddyliau, ifanc a hen, i ddwyn i ystyriaeth dyfodol seilwaith a rôl peirianwyr sifil er mwyn cynorthwyo’r gymdeithas i fynd i’r afael â’r heriau ddaw law yn llaw â newid hinsawdd.

Wrth i’r bobl ifanc droedio o amgylch yr arddangosfa, bydd cyfle iddyn nhw fwrw golwg ar ddarluniau ac animeiddiadau gwreiddiol wedi’u llunio â llaw ynghyd â chlywed chwe phlentyn yn siarad gyda’r cyflwynydd teledu a’r peiriannydd Rob Bell. Bydd y plant yn gofyn cwestiynau o bwys ynghylch cael gwared ar wastraff, effaith trafnidiaeth, ffynonellau ynni, gwerth dŵr, dinasoedd mwy ‘smart’ a byw gyda llifogydd. Mae’r pynciau hyn yn mynd i’r afael gydag ein dyfodol ac ystod eang o broblemau byd-eang. Hyn i gyd gyda’r nod o ysbrydoli pobl ifanc sy’n angerddol dros yr amgylchedd i ystyried gyrfa fel peiriannydd sifil.

Caiff ysgolion neu rieni gyda phlant eu gwahodd i ymweld â’r arddangosfa yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! er mwyn mwynhau’r arddangosion rhyngweithiol a manteisio ar y pamffledi sydd ar gael i fynd adref gyda nhw. Bu i Ysgol Bro Alun ymweld â ni eisoes ac fe ddywedodd yr athro Sioned Hughes: “Cafodd y plant fodd i fyw… maen nhw wedi mwynhau’r “Arddangosfa Amser yn Prysur Ddiflannu” yn arw. Fe wnaethon ddysgu llawer iawn am beirianneg sifil a sut gallai fod yn fanteisiol iddyn nhw, ynghyd â dysgu am effaith gadarnhaol peirianneg sifil ar yr amgylchedd. Mae wedi eu hysbrydoli heb os i ddilyn gyrfa yn y byd peirianneg.”

Dywedodd Keith Jones Cyfarwyddwr ICE Cymru: “Mae’n hollbwysig estyn croeso i arddangosfa mor ddylanwadol i Wrecsam a Gogledd Cymru gan ei fod yn gyfle i ennyn diddordeb pobl ifanc ac oedolion fel ei gilydd, mae’n bwysig sbarduno sgwrs am y problemau byd-eang ac ein hannog i drafod yr atebion drwy beirianneg sifil.”

Dywedodd Jennifer Hough, Swyddog Addysg ar ran Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! hefyd: “Mae’n bleser gennym ni i gynnal arddangosfa deithiol Amser yn Prysur Ddiflannu ICE yma yn Wrecsam. Bydd manteisio ar yr arddangosfa yn y ganolfan ar gychwyn y flwyddyn yn gyfle gwych i’n hymwelwyr ymwneud gydag a dysgu am greu byd sero net yn 2024”.

I wybod mwy am arddangosfa Amser yn Prysur Ddiflannu ICE yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!, ewch i: Time is running out | Institution of Civil Engineers (ICE) .

Dyma noddwyr yr arddangosfa Amser yn Prysur Ddiflannu, ArupAsiantaeth yr AmgylcheddGraham Laing O’RourkeNational HighwaysNetwork RailTony Gee a Jones Bros (civil engineering) Ltd yng Ngogledd Cymru.

Skip to content