Skip to content

Mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn falch o gyhoeddi ei bod wedi penodi Momentum Build, rhan o’r Momentum Group, wedi ei leoli yn Lerpwl, yn swyddogol, fel y cwmni adeiladu ar gyfer ei brosiect ehangu mawr, Xplore! 2.0, gyda gwaith adeiladu ar gyfer y Cam Cyntaf yn cychwyn ar y 5ed o Ionawr 2026.

Yn dilyn sawl cyfarfod a chynllunio prosiect helaeth, mae Xplore! yn hyderus ei fod wedi canfod ei bartner perffaith i gyflawni’r trawsnewid uchelgeisiol hwn. Mae Momentum Group wedi gweithio’n agos gyda thîm Xplore! i ddeall gweledigaeth, diben a gofynion ymarferol y prosiect yn llawn, gan sicrhau ymagwedd gyffredin o’r cychwyn cyntaf.

Penodwyd Momentum Build i gyflawni Cam Un a Dau o’r gwaith adnewyddu. Bydd y Cam Cyntaf yn cynnwys Planetariwm Xplore!, yn ogystal â’r lifft cysylltiedig a gosodiadau cegin. Mae’r tendr yn cynnwys caffael a chyflawni’r holl wasanaethau adeiladu ac adnewyddu ar gyfer y Planetariwm sefydlog. Pan fydd wedi’i gwblhau, dyma fydd yr unig blanetariwm cromen sefydlog yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, gan nodi gwelliant mawr i addysg gwyddoniaeth yn y rhanbarth.

“Mae cael ein penodi i gyflawni Cam Un Xplore! 2.0 yn gyfle gwych i ni. Mae Xplore! yn gyfleuster unigryw, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio’n agos â’u tîm i sicrhau bod y planetariwm a’r gwaith adnewyddu yn cael eu cwblhau i’r safon uchaf. Mae’n ysbrydoledig bod yn rhan o brosiect fydd yn ymgysylltu ac addysgu’r gymuned am flynyddoedd i ddod,” meddai Dan Lewis o Momentum.

Mae penodi Momentum Build yn nodi carreg filltir sylweddol i Xplore! 2.0. Bydd Cam Cyntaf y gwaith adnewyddu yn gwella profiad ymwelwyr, yn gwella hygyrchedd ac yn cynyddu cyfleoedd addysgol. Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad Xplore! i ysbrydoli dysgu a chwilfrydedd mewn gwyddoniaeth ar gyfer ysgolion, teuluoedd a’r gymuned ehangach, wrth sicrhau bod y cyfleuster yn parhau’n lleoliad o’r radd flaenaf i Ogledd Cymru.

“Mae gan Momentum Build yr arbenigedd, y profiad a’r gwerthoedd cyffredin i’n helpu i roi bywyd i Xplore! 2.0 O’n cyfarfodydd cyntaf un, roedd yn amlwg eu bod yn deall ein gweledigaeth am le addysgiadol ysbrydoledig. Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith adnewyddu, gan gynnwys ein planetariwm, yn mynd rhagddo, a rhannu’r effaith gadarnhaol gyda’n hymwelwyr a’r gymuned ehangach,” meddai Scot Owen, Rheolwr y Ganolfan yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!

Mae prosiect Xplore! 2.0, yn cychwyn gyda’r Cam Cyntaf, yn dangos ymrwymiad parhaus Xplore! i arloesedd, ymgysylltiad cymunedol ac addysg gwyddoniaeth o ansawdd uchel. Gyda Momentum Build fel ei phartner, mae’r ganolfan yn edrych ymlaen at ddarparu lle hygyrch, ysbrydoledig wedi’i adnewyddu, fydd yn parhau i ymgysylltu ac addysgu ymwelwyr o bob oedran am flynyddoedd i ddod.

Skip to content