Skip to content

Mae’n falch iawn gan Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! gyhoeddi eu bod yn cymryd rhan yn y prosiect Meddylfryd + Nodau. Mae’r prosiect “Canolfan Dysgu Gydol Oes” gan Xplore! yn canolbwyntio ar gyd-greu profiadau canolfannau gwyddoniaeth gyda grwpiau cymunedol. Bydd Xplore! yn cydweithio gyda KIM-Inspire, Dynamic Voice, Contact Club, ac Arts from the Armchair ar gyfres o chwe sesiwn cyd-gynhyrchu unigryw. Bydd y rheiny sy’n cymryd rhan yn cydweithio i ddatblygu ystod o weithgareddau er defnydd eu hunain. Nod y sesiynau cyd-ddatblygu hyn ydy meithrin perthnasau agosach gyda’r grwpiau cymunedol i drawsnewid Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! i fod yn ganolfan dysgu gydol oes.

Gyda’i gilydd, mae 12 o amgueddfeydd a chanolfannau gwyddoniaeth yn y DU wedi derbyn cyfanswm o £827, 945 mewn cyllid gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI). Nod y rhaglen, sydd o dan arweiniad y Gymdeithas Amgueddfeydd ar y cyd â’r Gymdeithas Canolfannau Gwyddoniaeth a Darganfod a The Liminal Space, ydy grymuso amgueddfeydd a chanolfannau gwyddoniaeth i fwrw golwg ar ffyrdd arloesol o wasanaethu eu cymunedau drwy fentrau sy’n ymwneud ag ymchwil.

Mae KIM-Inspire a Dynamic eill dau wedi ymweld ag Xplore! er mwyn bwrw iddi i ddatblygu eu syniadau ar gyfer y gweithgareddau, dywedodd Barbara Masters o iCan Connector gyda KIM-Inspire “Mae ein cleientiaid KIM WRTH EU BODD gyda’r sesiynau gydag Xplore a’r prosiect Meddylfryd a Nodau. Maen nhw’n edrych ymlaen yn arw at bob dydd Iau ac maen nhw’n llawn mynd ac yn barod iawn i leisio’u barn yn y sesiynau, mae’n braf iawn gweld hynny!

Mae hyder y grŵp yn ei gyfanrwydd wedi’i hybu ac mae pawb yn bwrw iddi i gymryd rhan, gan rannu syniadau ac maen nhw’n awyddus iawn i sicrhau bod y prosiect yn llwyddiannus.”

Dywedodd Dawn Pavey, y Swyddog Prosiectau “Mae Xplore! yn falch iawn o’r gwaith rydym ni wedi’i gyflawni yn y gorffennol i ddatblygu a chyd-greu prosiectau gydag ein grwpiau cymunedol lleol. Mae’n bleser o’r mwyaf gennym ni i allu parhau gyda’r gwaith hwn fel rhan o’r prosiect Meddylfryd a Nodau newydd. Mae ymwneud gyda gwyddoniaeth yn llawer mwy llwyddiannus pan fo’r gymuned yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac mae’r prosiect hwn yn gyfle gwerth chweil i sicrhau hyn.

Rydym yn llawn cyffro i weld beth mae’r grwpiau hyn yn mynd ati i’w datblygu ac rydym yn edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y prosiect hwn.”

Dywedodd Tom Saunders, Pennaeth Ymgysylltu Cyhoeddus o UKRI “Gydag ein strategaeth ymgysylltu cyhoeddus newydd, nod UKRI ydy goresgyn y rhwystrau rhwng ymchwil, arloesi a’r gymdeithas. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r 12 mudiad hyn i fwrw golwg ar y gwahanol ffyrdd y gallai amgueddfeydd a chanolfannau gwyddoniaeth fynd rhagddi i ymchwilio ac arloesi a chysylltu gyda grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli.

Gan gyflawni’r gwaith hwn, ein nod ydy sicrhau bod cynwysoldeb wrth wraidd gwaith ymgysylltu amgueddfeydd a chanolfannau gydag ymchwil ac arloesi yn y dyfodol.”

Wrth i’r prosiect ddatblygu, bydd Xplore! yn cynnal llu o weithgareddau ar gyfer y grwpiau hyn ac yn rhyddhau rhagor o fanylion am y gweithgareddau sydd wedi’u cwblhau. I wybod mwy am Xplore! a’u rhan yn y rhaglen Meddylfryd + Nodau, cysylltwch gyda projects@xplorescience.co.uk.

Contact Us

"*" indicates required fields

Contact Us

"*" indicates required fields

Skip to content