Skip to content

Mae’r Gweithdy ‘Mwyngloddio Magnetau’ i Ysgolion, y cyntaf un o’i fath, wedi llwyddo i dderbyn cyllid gan Innovate UK i hybu addysg sy’n ymwneud â deunyddiau critigol ar gyfer technoleg wyrdd.

Mae’r gweithdy hollbwysig hwn yn arbennig ar gyfer dysgwyr oedran cynradd ac mae wedi’i rannu’n chwe cham allweddol o’r gadwyn gyflenwi ar gyfer boron haearn neodymium (NdFeB) sef y magnetau parhaol sy’n hanfodol ar gyfer cerbydau trydan.

Mae Less Common Metals (LCM), sef BBaCh yn Ellesmere Port, yn creu systemau aloi cymhlyg a metelau ar gyfer y diwydiant magnetau parhaol yn bennaf. Gallwch ddod o hyd i nifer o’r aloiau hyn mewn eitemau dydd i ddydd megis gliniaduron, ffonau symudol, clustffonau a seinyddion. Caiff y magnetau parhaol mwy eu defnyddio mewn tyrbinau gwynt a cherbydau trydan. Mae’r cwmni yn allforio i 17 gwlad ac yn bodoli yn y gadwyn gyflenwi mwyngloddio magnetau fel gwneuthurwr canol.

Mae Xplore! yn Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth ac elusen yn Wrecsam sydd â’r nod o gyflwyno gwyddoniaeth mewn ffordd arloesol gerbron pobl o bob oedran. Mae arddangosion ymarferol di-ri yn y ganolfan sy’n gyfle i’r ymwelwyr chwilota ac arbrofi. At hyn, maen nhw’n cynnal gweithdai addysgol i blant ysgol, naill ai yn y ganolfan neu mewn ysgolion. Fel rhan o’u cynnig, mae Xplore! hefyd yn cydweithio gyda phartneriaid diwydiant lleol sy’n rhannu gwerthoedd tebyg: y rheiny sy’n awyddus i gydweithio gyda’u cyflogwyr yn y dyfodol, neu’r rheiny sydd ag awch i fuddsoddi yn eu cymuned. Drwy ddenu nawdd tuag at eu gweithdai mae modd i Xplore! fwrw iddi i gydweithio gyda busnesau lleol, gan gyflwyno enghreifftiau byd go iawn ar waith yn eu gweithdai rhyngweithiol.

Mae LCM yn credu’n gryf y dylai bod addysg a phontio’r bwlch rhwng busnesau ac ysgolion wrth wraidd sicrhau cyflenwad o ddoniau sy’n berthnasol i’r diwydiant. Mae’r cwmni yn ystyried hyn yn annatod er mwyn newid safbwyntiau a pharatoi’r genhedlaeth nesaf i ddysgu am werth y diwydiant daear prin a sut mae’n effeithio ar eu bywydau, yn enwedig gyda Thargedau Gwyrdd y DU ar droed.

Yn gyntaf, yn ôl yn 2021 bu i Xplore! a LCM fwrw iddi ar y cyd i gynllunio, datblygu a chyflawni’r gweithdy gan gydweithio gyda 250 o ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 o ysgolion cynradd a oedd yn lleol i LCM.

Dywedodd Georgia Rigoni, Swyddog Gweithredol Cyfathrebu yn LCM: “Rydym wrth ein bodd o dderbyn cymorth gan Innovate UK i fynd rhagddi gyda’r gweithdy hwn a mynd ati i’w gynnal i 1500 o blant ychwanegol yn y Gogledd orllewin a Gogledd Cymru. Y nod erioed fu ennyn diddordeb rhagor o ddysgwyr ifanc ac rydym yn llawn cyffro gyda’r syniad bod modd cynnig y gweithdy yn genedlaethol”.

Dywedodd Katie Williams, Rheolwr Datblygu Busnes yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! “Buom yn cydweithio gyda thîm LCM i gynnig y gweithdai ymgysylltu ‘Mwyngloddio Magnetau’ cyntaf un i blant oedran cynradd ac rydym ar ben ein digon bod gwaddol y prosiect yn parhau diolch i Innovate UK, drwy gynnal y gweithdai ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at gychwyn arni yn 2024.”

Ychwanegodd Martin Cherrington, Arweinydd Rhaglen ar ran cadwyni cyflenwi deunyddiau critigol Cylchol yn Innovate UK: “Rydym wir wrth ein bodd y bydd ein partneriaeth yn helpu Xplore! ac LCM i gynnig y gweithdai i lawer iawn mwy o blant ysgol gynradd. Mae’n fenter arbennig a fyddai’n ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ynghylch pwysigrwydd metelau daear prin ar gyfer trosi ynni.”

Mae’r gweithdy, sy’n para 45 munud, wedi’i deilwra ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol ac mae’n ymdrin â chwe gweithgaredd ymarferol o adnabod tarddiad elfennau daear prin, echdynnu a gwahanu, malu metel i ocsidau, cynhesu a mowldio aloiau, magnetau a magnetau parhaol mewn cerbydau trydan.

Bydd y prosiect yn fodd o ddatblygu rhanbarth o fyfyrwyr addysgedig sy’n fwy tebygol o astudio daearyddiaeth, cemeg a daeareg ac a fyddai’n ategu’r system addysg er mwyn datblygu gweithwyr ar gyfer y dyfodol i LCM a chwmnïau eraill yn y gadwyn gyflenwi. Yn ei dro bydd hyn yn lleihau’r prinder sgiliau yn y dyfodol. Os hoffech chi gadw lle ar y gweithdy Mwyngloddio Magnetau, cysylltwch gyda thîm archebion Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! ar bookings@xplorescience.co.uk a byddwn yn fwy na bodlon cynnal y gweithdy os oes digon o alw amdano.

Skip to content