Skip to content

Bu cyfle i’r cyhoedd a phlant ysgol leol fanteisio ar gipolwg newydd hynod ddifyr ar sut mae modd echdynnu, defnyddio, adfer ac ailgylchu metelau sy’n hanfodol ar gyfer technolegau dydd i ddydd, drwy ddiwrnod arloesol o weithgareddau yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!

Mae tîm o arbenigwyr, gydag ymchwilwyr o Brifysgol Exeter wedi mynd ati i greu’r arddangosyn ‘Y Metelau Gwerthfawr Newydd’, Dwyn Trysorau Ein Technoleg Bob Dydd i’r Golwg’, sydd wedi’i osod yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn Wrecsam. Fe agorwyd yr arddangosyn, sydd yn oddeutu 3.5m o uchder, ar Ebrill y 15fed a gallai’r ymwelwyr roi cynnig ar fynd i’r afael â’r galw cynyddol am adnoddau metel naill ai drwy adeiladu mwy o fwyngloddiau – neu drwy atgyweirio, adfer ac ailgylchu metelau gwerthfawr sydd wedi’u hechdynnu eisoes. Bydd cyfle i’r rheiny sy’n cymryd rhan ddysgu am union raddfa’r galw am fetelau megis lithiwm, tun a chobalt ynghyd â dysgu mwy am sut mae metelau technoleg yn gwneud gwahaniaeth mawr i eitemau bob dydd megis ffonau a chyfrifiaduron, yn ogystal â diwydiant ar raddfa fawr.

Dywedodd Frances Wall, Athro Mwynyddiaeth Cymhwysol yn Ysgol Fwyngloddiau Camborne, Prifysgol Exeter;

“Mae cysyniadau cadwyn gyflenwi economi gylchol yn ymestyn llawer pellach nag ailgylchu ar ddiwedd oes yn unig.

“Mae economi gylchol yn cychwyn yn syth o ddechrau cadwyn gyflenwi, o echdynnu adnoddau mewn modd cyfrifol, trwy ddylunio cynnyrch yn feddylgar, gweithredu drwy fodelau busnes gwahanol ac ar ddiwedd oes unrhyw gynnyrch – pe bai’n ffôn neu’n dyrbin gwynt – sut i ailgylchu’r rhannau cyfansoddol yn effeithlon ac yn effeithiol gyda chyn lleied o effaith â phosibl ar yr amgylchedd.   

“Mae’r tîm ar Met4Tech wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr arddangosyn newydd yn rhyngweithiol ac yn addysgiadol. Yn ei dro bydd ymwelwyr yn teimlo’n hyderus eu bod yn ymwybodol o beth ydy economi gylchol ar gyfer metelau technoleg a sut gallan nhw gyfrannu wrth inni symud i fod yn sero net.” 

Er mwyn lansio’r arddangosyn newydd sbon hwn, fe estynnwyd gwahoddiad i ysgol Plas Coch i Xplore! i roi cynnig arno ynghyd â chymryd rhan yng ngweithdy newydd Xplore! i ysgolion, Mwyngloddio a Magnetau. Ariannwyd y gweithdy rhyngweithiol yn wreiddiol gan Less Common Metals, ac fe gaiff ei gynnig i ysgolion ledled y siroedd rhanbarthol gyda diolch i gyllid gan Innovate UK. Nod y gweithgareddau ymarferol hyn ydy helpu dysgwyr ysgolion cynradd i ddeall pwysigrwydd magnetau mewn eitemau bob dydd megis gliniaduron, ffonau symudol, clustffonau a seinyddion.

Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes yng Nghanolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore!;

“ Mae Xplore! yn falch iawn o gynnal diwrnod arbennig o weithgareddau sy’n ymwneud gyda gwyddoniaeth. Fel rhan o’r diwrnod byddwn yn cyflwyno arddangosyn newydd sbon, sy’n cyd-fynd i’r dim â gwaith blaenorol Xplore! gyda Less Common Metals. Mae’n gyfle gwych i ennyn diddordeb y cyhoedd a dysgwyr o Ysgol Plas Coch ym mhwysigrwydd mwynau critigol a’r ystod eang o ffyrdd y cân nhw eu defnyddio.

Ein gobaith yn yr wythnosau nesaf ydy y bydd yr arddangosyn newydd sbon, ar rodfa Xplore! yn sicrhau bod mwy fyth o ymwelwyr yn deall pwysigrwydd elfennau daear prin a’r camau gallan nhw eu gweithredu i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.”

Dywedodd Elen Mostyn, Athrawes Blwyddyn 5/6 o Ysgol Plas Coch;

“Mae ein disgyblion wedi mwynhau eu diwrnod yn Xplore! yn arw. Fe wnaethon nhw fwynhau pob agwedd o’u hymweliad gan gynnwys yr arddangosyn newydd a’r gweithdy Mwyngloddio a Magnetau.”

“Mae ein disgyblion heb os nac oni bai wedi gadael gyda gwell dealltwriaeth o sut caiff magnetau eu creu ynghyd â phwysigrwydd yr economi gylchol ac ailgylchu. Bu gweithgareddau ac ati’r diwrnod yn berthnasol iawn i’r hyn rydym yn ei gyflawni yn ein gwersi yn yr ysgol a bu’n gyfle gwych i fwrw iddi i ddysgu y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.”

I ddathlu’r diwrnod ymhellach, bu i Xplore! gynnal Caffi Trwsio Wrecsam yn eu canolfan. Mae Caffis Trwsio yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim lle mae gwirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser ac yn cynnig eu sgiliau i geisio atgyweirio eitemau sydd wedi torri, a hynny yn gyfnewid am gyfraniad yn aml. Ymysg yr eitemau y gallan nhw eu hatgyweirio mae nwyddau trydan, gliniaduron, beiciau, dillad, bagiau, tecstilau’r cartref, gemwaith, teganau, dodrefn bach a mwy.

Eu nod yn y pen draw, sy’n deillio o bryder cynyddol gan y cyhoedd am yr Argyfwng Hinsawdd a’r bwriad i gymryd camau ymarferol yn lleol i leihau tarthiadau carbon, ydy atal eitemau rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi, rhannu sgiliau a chreu ymdeimlad o gymuned. Mae dros 100 o leoliadau ledled Cymru erbyn hyn.

Skip to content