Dewch a’ch tîm i goedwig Xplore! Natur yn Llaneurgain er mwyn meithrin cysylltiad gyda natur a gyda’i gilydd.
Dewiswch 3 o’r 7 gweithgaredd sydd wedi’u rhestru
-
Cerdded a Chlebran yn y Goedwig – Cyfle i fwynhau taith dywys o amgylch coedwig campws Llaneurgain ac adnabod yr amryw blanhigion ac anifeiliaid. Dewch i fwynhau awyrgylch braf y safle hynafol a dysgu mwy am ei hanes amrywiol.
-
Creu a Chludo Adref yn y Goedwig – Cyfle i ddefnyddio adnoddau naturiol i greu eitem i gludo adref gyda chi. Gallwch ddewis o greu canhwyllau, blychau adar, ‘Llygaid Duw’, creadigaethau clai, ffyn wedi’u naddu a thorchau Nadolig.
-
Adeiladu Lloches – Dewch i ddysgu am glymau a defnyddio adnoddau o’r goedwig i greu llochesi sy’n ddigon mawr i amddiffyn eich tîm rhag y gwynt a’r glaw.
-
Cynnau Tân – Dewch i ddysgu sut i gynnau tân yn ddiogel yn yr awyr agored heb orfod defnyddio tanwyr neu fatsis. Defnyddiwch y tegellau Kelly i ferwi’ch dŵr eich hun ar gyfer diodydd poeth.
-
Meddylgarwch – ddyfeisiau electronig lle bydd cyfle ichi gyflawni’r sesiwn ar eich cyflymder eich hun. Bydd cyfle i wrando ar straeon o amgylch y tân gwersyll, creu llun manwl o ddeilen, cael hoe fach mewn hamog neu droedio’r cae a’r coetir gerllaw
-
Cynnal a chadw’r safle – Beth am roi o’ch amser i’n helpu i gynnal a chadw ein coetiroedd ac ein mannau ysgol goedwig bendigedig. Bydd ein anghenion cynnal a chadw yn newid dros y flwyddyn ond ymysg y tasgau sydd i’w cyflawni mae tacluso’r llwybr, codi ffensys a llochesi, creu cynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt, astudiaethau Bioblitz a chasglu a thorri coed tân.
Rhywbeth i'w gadw mewn cof...
Sylwch ein bod yn ceisio ein gorau glas i gyflwyno’r sesiwn ym mhob tywydd, felly mae diddos a welingtons yn hanfodol!
Os oes angen gohirio sesiwn, gallwn fel arfer gyflwyno sesiwn adeiladu tîm dan do yn Xplore! yn Wrecsam yn lle hynny am bris gostyngol a rhag-drefnu eich sesiwn yn y goedwig am ddyddiad arall.